Mesur y Gymraeg (Cymru 2011) 

Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Mesur hefyd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Yn sgil pasio’r Mesur cafodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei sefydlu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Mae gan y Comisiynydd hefyd gyfrifoldeb i sicrhau fod gofynion statudol y Mesur yn cael ei weithredu yn unol â chyfres o Safonau. 

Dyma ffilm gan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n egluro beth yw’r Mesur.

 

Safonau’r Iaith Gymraeg 

Mae rhai sefydliadau yng Nghymru yn dod o dan safonau iaith  y Mesur. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt gyflawni dyletswyddau iaith penodol.  

 

Ydy eich sefydliad chi yn dod o dan y Safonau? 

Ebostiwch post@cyg-wlc.cymrui weld os yw eich sefydliad yn un o'r sefydliadau sy’n cael eu henwi yn y Mesur ac sy'n dod o dan y safonau.

Os ydych chi’n un o’r rhai sy’n cael eich enwi, yna bydd angen i chi gyflawni eich dyletswyddau o dan y Safonau iaith. Cysylltwch â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am gymorth a gwybodaeth ar hyn drwy ebostio post@cyg-wlc.cymru.

 

Gofynion Llywodraeth Cymru 

Mae Llywodraeth Cymru, wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu’r defnydd o’r iaith.  

Dyma fideo sy'n egluro ei Strategaeth Iaith Gymraeg.

Mae’r Llywodraeth yn ystyried fod gan Sector y Celfyddydau rôl allweddol i’w chwarae yn y gwaith hwn: 

  • Un o nodau strategol y Llywodraeth yw sicrhau fod ‘y Gymraeg yn cael ei gwarchod fel rhan annatod o’n diwylliant cyfoes’. (Llywodraeth Cymru, Strategaeth 2050, t.66) 

  • Mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried ei bod hi’n bwysig i roi llwyfan i weithgareddau yn Gymraeg yn ogystal â hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.  Mae’r Llywodraeth am “weld a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n fwy eang mewn diwylliant poblogaidd ym mhob un o’i gyfryngau celfyddydol ac mewn llenyddiaeth, theatr, ffilm a theledu.” (Llywodraeth Cymru, Strategaeth 2050, t.64) 

Darllenwch strategaeth iaith Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050 yn llawn yma.

 

Cyngor y Celfyddydau a'r Gymraeg 

Mae Cymru’n genedl ddwyieithog – yn gyfreithiol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Does dim yn gwneud Cymru’n fwy nodedig na’r Gymraeg.  

Rydyn ni, fel Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni’n credu fod gan bawb yr hawl i archwilio eu diwylliant eu hunain, eu creadigrwydd eu hunain, drwy eu dewis iaith, boed fel defnyddiwr, cyfranogwr neu artist. 

Mae’r Gymraeg yn drysor. Ond nid rhywbeth i’w chloi ymaith a’i harddangos o bell ydyw. Rhaid i’r iaith hefyd fod yn hoff degan i ni, yn rhywbeth i’w thrin a’i thrafod ac sy’n dod gyda ni i bob man. Rhan fawr o waith y Cyngor felly yw creu cyfleoedd i artistiaid o bob cefndir fod yn greadigol drwy’r Gymraeg a rhoi cyfle i bobl o bob cwr o Gymru a’r byd fwynhau creadigrwydd y Gymraeg. Ydi, mae’n drysor, fel hen jwg deuluol, ond job y Cyngor yw tynnu’r jwg o’r seld a’i rhoi yn nwylo ein plant, iddyn nhw gael chwarae â hi.

Tudur Hallam, Cadeirydd Pwyllgor y Gymraeg

Yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dyma sut rydym ni’n cydymffurfio â’r ymrwymiad hwn.

Yn ogystal, rydym yn cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol ar y Gymraeg. Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth ynghylch ein perfformiad yng nghyswllt ein hamcanion, ein gofynion a’n huchelgais o ran y Gymraeg.

 

Dolenni defnyddiol: 

Llywodraeth Cymru a'r Gymraeg: https://llyw.cymru/y-gymraeg 

Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/ neu ebostiwch post@cyg-wlc.cymru