Cwestiynau mynych

Nac oes, dim o gwbl. Efallai eich bod yn Bennaeth y Flwyddyn, Arweinydd Maes Dysgu a
Phrofiad, Arweinydd Cwricwlwm, Arweinydd Bugeiliol neu Gydlynydd Anghenion Dysgu
Ychwanegol. Os oes gennych gyfrifoldeb ysgol gyfan am unrhyw agwedd ar addysgu a
dysgu, hoffem glywed oddi wrthych. Yn yr un modd, gallwch fod yn athro dosbarth sydd â
diddordeb arbennig mewn archwilio dysgu creadigol a chymryd arweiniad ar gyfer hyn yn
eich ysgol.

Nac oes, dim o gwbl. Mae creadigrwydd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd sy'n cyd-fynd â'r 4
Diben Craidd ac mae’n wir am bob Maes Dysgu a Phrofiad arall hefyd. Mae addysgeg dysgu
creadigol yn berthnasol a defnyddiol wrth ddyfeisio profiadau arloesol ac atyniadol i bob
disgybl.

Bydd. Bydd yn amod ar eich cymryd rhan ac yn ffordd i sicrhau y cewch y gorau o'r profiad
ac elwa o'r cyfleoedd dysgu proffesiynol a gymeradwywyd gan Academi Genedlaethol ar
gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru/Cyngor
Celfyddydau Cymru. Peidiwch ag ymgeisio os nad ydych yn siŵr y byddwch ar gael ar gyfer
pob un o’r dyddiadau angenrheidiol.

Wrth gefnogi ei arweinydd, yn aml iawn mae’n ei hyfforddi. Ein diffiniad o hyfforddi yw:
Partneru mewn proses greadigol sy'n ysgogi'r meddwl ac ysbrydoli rhywun i wneud y
mwyaf o'i allu personol a phroffesiynol (Ffederasiwn Hyfforddi Rhyngwladol). Mae
manteision o hyfforddi’n cynnwys:
1. Grymuso drwy sgyrsiau cefnogol a meddylgar tuag at gyflawni nodau
2. Gweld pethau o’r newydd drwy ymholi
3. Meddwl yn rhydd a mwy hyblyg drwy gwestiynu sy'n annog yr arweinydd i weld
safbwyntiau eraill
4. Gwell perfformiad o ran agwedd a gallu drwy gael y gorau o dalentau pawb
5. Gwell cyfathrebu drwy ddatblygu eglurder neges (Insala, 2019)

Oes. Rhaid gweithio gyda'ch Asiant Creadigol. Mae’n amod cymryd rhan. Rydym yn gwybod
pa mor brysur yw ysgolion a’u harweinwyr. Nod y rhaglen yw gallu ymaddasu o gwmpas
eich ymrwymiadau gwaith. Ond weithiau mae arweinwyr yn cael trafferth dod o hyd i
amser i gwrdd â'u Hasiantau Creadigol a diwedd hyn yw methu’r rhaglen. Rydym am osgoi
hynny ar bob cyfrif. Felly ystyriwch yn ofalus eich ymrwymiad i'r elfen sylfaenol yma cyn
ymgeisio.

Nac oes. Penderfyniad rhyngoch chi a’r Asiant yw sut rydych yn dewis cynllunio eich amser
gyda'ch gilydd. Gallai fod yn gyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai ar-lein am gyfnodau
gwahanol (fel sesiwn gynllunio hanner diwrnod a sesiynau dal i fyny am awr bob wythnos).

Nac ydy. Hyfforddwr personol i chi yw’r Asiant drwy gydol y rhaglen. Mae’r rhaglen yn
canolbwyntio ar eich profiad chi. Mae’n rhoi amser gwerthfawr ichi feddwl am eich arferion
a'ch arweinyddiaeth. Ond bydd yr hyn a ddysgwch drwy arbrofi hefyd o fudd i'r disgyblion
yn y pen draw. Ond ni fydd yr asiant yn gweithio gyda’r disgyblion.

Byddwn. Byddwn yn talu am gostau cyflenwi i chi fynd i’r sesiynau hyfforddi, rhwydweithio
a rhannu. Byddwn hefyd yn talu am yr Asiant Creadigol. Mae’n amod cymryd rhan eich bod
yn defnyddio’r tridiau gyda’ch Asiant Creadigol – ond eich penderfyniad chi yw sut i
ddyrannu’r amser.

Eich penderfyniad chi a’r Asiant yw hynny. Mae'r rhaglen yn rhedeg am gyfnod o 18-20
wythnos. Mae wedi'i chynllunio i gyd-fynd â dyddiadau tymhorau a’ch cyfrifoldebau yn yr
ysgol. Ond rydym yn hyblyg ac yn deall pa mor brysur yw bywyd yr ysgol a pha mor brysur
yr ydych chi.

Nac ydy. Bydd pob arweinydd ysgol ac Asiant Creadigol yn penderfynu ar ba nod neu nodau
dysgu creadigol ac arweinyddiaeth greadigol sydd gennych a pha feysydd penodol i'w
harchwilio a'u datblygu. Bydd hyn yn cael ei droi wedyn yn gwestiwn ymholiad.

Ydych! Cewch Arweinydd Prosiect o dîm Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a’ch
Asiant Creadigol eich hun. Mae ein holl Asiantau Creadigol ar y Rhaglen Arweinyddiaeth
Greadigol yn ymarferwyr creadigol proffesiynol sy’n brofiadol a medrus iawn. Yn ogystal,
byddwn yn gofyn i bobl a fu ar y rhaglen rannu eu profiad â chi. Byddwn hefyd yn dod â'r
garfan bresennol at ei gilydd yn rheolaidd ar gyfer rhwydweithio a rhannu.

Yr hyn a ddywedwn wrth ein Hasiantau Creadigol am eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol
eu hunain wrth weithio ar y rhaglen hon: Mae rôl yr Asiant Creadigol yn y Rhaglen
Arweinyddiaeth Greadigol yn benthyg oddi wrth, ond yn wahanol iawn i, rôl Asiant
Creadigol draddodiadol ar ymholiad Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae manteision cymryd y
rôl hon yn aml-haenog ond maent yn debygol o gynnwys rhai, os nad pob un o’r canlynol:
• gweld pethau o’r newydd yn ei arferion proffesiynol, ei werthoedd a’i alluoedd
proffesiynol
• safbwyntiau newydd ar ei ddulliau a'i gryfderau unigryw i gefnogi a meithrin
creadigrwydd mewn eraill
• cyfleoedd am gefnogaeth anffurfiol gan bobl eraill yn yr un maes
• hyfforddiant a chefnogaeth gan Dîm Arweinyddiaeth Greadigol Cyngor Celfyddydau
Cymru
• ymdeimlad gwych o gyflawniad a boddhad dirprwyol wrth iddo weld datblygiad ei
arweinydd.

Darllen mwy