Fe gyflwynir Leviathan yn Neuadd Les Ystradgynlais Nos Fercher 8fed Mai, ac yn Neuadd Dwyfor Pwllheli Nos Wener 10fed Mai.

Mae pawb yn gyfarwydd â stori Moby Dick, on’d ydyn? Hanes Ahab, y capten llong hwnnw sy’n benderfynol o ddal y morfil gwyn? Wel, mae’n amser edrych arni o’r newydd. Y Gwanwyn yma, mi fydd cynhyrchiad o Leviathan gan y coreograffydd arobryn James Wilton, wedi’i seilio ar nofel arloesol Herman Melville, yn dod i Gymru. Moby Dick newydd ar gyfer y Ganrif 21ain sydd yma, un a ddisgrifiwyd eisoes fel epig wefreiddiol ag egni’n tarannu ar hyd ei gwythiennau.

Gyda chast o chwech, bydd cynhyrchiad Wilton o LEVIATHAN a’i gyfuniad nodweddiadol unigryw o ddawnsio athletig, creft ymladd, capoeira a gwaith partnerol yn cadw’r gynulleidfa ar bigau drain.

Mae Moby Dick yn greadur mor anferth a pheryglus â’r môr ei hun, sydd eto’n brydferth a digynnwrf y tu hwnt i ddychymyg. Caiff aelodau criw Ahab eu sugno i mewn gan garisma gwallgof eu capten, gan ei ddilyn yn ddall ar ei chwilfa enbyd sy’n arwain bron yn anochel at ddifancoll. Adroddir y stori trwy gyfrwng symudiadau ffyrnig y dawnswyr, â chyfeiliant trac sain electro-roc grymus. Mewn cynhyrchiad a ddisgrifiwyd fel rhywbeth mwy corfforol a dramatig nag unrhywbeth y mae’r cwmni hwn wedi rhoi cynnig arno o’r blaen, mae LEVIATHAN yn cyflwyno dyn yn erbyn natur.

Dywedodd y coreograffydd Wilton:

“Dw i wedi fy nghyfareddu bob amser gan y berthynas rhwng dyn a natur. Yr hyn sydd fwyaf diddorol imi yw’r modd y byddwn i gyd yn ofni ein gilydd yn fwy nag yr ydym yn ofni natur. Rydym yn pryderu mwy ynghylch pobl eraill a’r pethau peryglus y gallan nhw’u gwneud nag ynghylch grym arswydus y blaned.

“Mae’n ddiddorol gweld hefyd sut rydym yn credu bod ein grym ni mor arwyddocaol.  Byddwn yn rhyfeddu at yr arfau niwclear rydym wedi’u creu, gan dybio mai dyna wir rym. Serch hynny, gollyngodd tswnami 2005 fwy o rym na 1,500 o arfau niwclear, gan ddangos bod ein harwyddocâd ni ar y blaned hon yn bitw o’i gymharu â grym natur.

“I mi, mae Moby Dick yn cynrychioli rhywun sy’n ymdrechu i drechu natur, ac yn y pendraw yn methu. Mae oferedd yr ymlid, ac obsesiwn lloerig Ahab, yn creu stori stori wir gymhellol yr ydw i’n awyddus i’w hail-greu a’i hail-ddychmygu.

“Dw i ddim yn ymddiddori fel artist mewn cysyniadau bychain. Hyd yn hyn, gydol fy ngyrfa dw i wedi delio â natur bywyd a marwolaeth (Last Man Standing), ein ffyrdd o ddirnad realiti (Cave), a chysyniad moesoldeb (Rite of Spring). Mae LEVIATHAN, wrth archwilio natur a thynged, yn dilyn yr un trywydd, sef cysyniadau mawr, gan gynnig imi doreth o gynllwyn ac ysbrydoliaeth.”

Sefydlodd James gwmni James Wilton Dance ar ôl graddio o’r London Contemporary Dance School yn 2009. Ers hynny mae cynyrchiadau James wedi teithio i Dde Corea, Tseina, yr Unol Daleithiau, Dwbai, yr India, yr Almaen, Awstria, Gwlad Pwyl, y Swisdir, Malta, yr Eidal, Sbaen, Ffrainc, Sweden a Denmarc, gan ennill gwobrau yng nghystadlaethau Coreograffi Hannover, Bern a Masdanza, yn ogystal â Chystadleuaeth Ddawns Fyd-Eang Sadlers Wells.

Mae Last Man Standing, gwaith diweddaraf cwmni James, wedi cael ei weld gan fwy na 15,000 o bobl mewn mwy na 60 o theatrau ers iddo gael ei greu yn 2014.

Yn 2013 cafodd James ei gomisiynu i goreograffu gwaith a fyddai’n cael ei berfformio gan 50 o ddawnswyr proffesiynol yn seremoni agoriadol Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd ac ar achlysur y rownd gynderfynol yn Stadiwm y Mileniwm a Stadiwm Wembley. Gwelwyd y gwaith hwnnw gan fwy na 110,000 o bobl.

Yn ogystal â’i waith gyda’i gwmni ei hun, mae James wedi creu cynyrchiadau ar gyfer Theatr Dawns yr Alban, Opera Graz, Ballett Hagen, Tanz Compagnie Giessen, Verve, EDge a llu o grwpiau perfformio eraill yn cynnwys myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig mewn gwahanol brifysgolion.

Yn 2013 fe goreograffodd James 'The Rite of Spring' i Oper Graz ar gyfer canmlwyddiant y gwaith; cyflwynwyd 10 o berfformiadau gyda cherddorfa lawn. Derbyniodd James wobr Cymrodoriaeth Celfyddydau Perfformio’r BBC mewn partneriaeth â chwmni Swindon Dance. Mae Cwmni Dawns James Wilton yn gwmni cyswllt yn Theatr The Hall for Cornwall, Truro.

Bydd y cwmni’n perfformio Moby Dick gerbron cynulleidfaoedd Cymreig fel rhan o Ŵyl Ddawns Draws Cymru. Menter gan Creu Cymru yw hon, wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol; bydd theatrau a neuaddau mewn trefi ledled Cymru’n cyflwyno perfformiadau gan rai o gwmnïau dawns newydd gorau gwledydd Prydain. Yn eu plith y mae Neuadd Les Ystradgynlais, Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, Theatr y Glowyr yn Rhydaman, Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi a Theatr Colwyn ym Mae Colwyn.

Creu Cymru yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau Cymru. Mae Creu Cymru’n gweithio ar y cyd â’r National Touring Forum (NRTF) ar y prosiect yma er mwyn galluogi’r chwe theatr yng Nghymru nad ydynt yn arfer cynnwys digwyddiadau dawns yn eu rhaglenni i gyflwyno perfformiadau gan artistiaid a chwmnïau adnabyddus, a’r rheini wedi’u hail-goreograffu ar gyfer cynyrchiadau ar raddfa lai. 

Mae’r prosiect eisoes wedi gweld Cwmni Uchenna Dance yn perfformio dehongliad cyffrous o Hansel and Gretel trwy gyfrwng dawnsio dinesig yn Theatr y Glowyr, Rhydaman, a bydd rhagor o gynyrchiadau’n cael eu cyhoeddi yn y man ar gyfer yr hydref.

Bydd Leviathan yn Neuadd Les Ystradgynlais Nos Fercher 8fed Mai ac yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli Nos Wener 10fed Mai. Mae tocynnau i weld Leviathan ar werth yn awr yn swyddfeydd tocynnau’r theatrau ac ar eu gwefannau.