Mae Jên yn arweinydd profiadol ym maes y celfyddydau cyfranogol a dawns.  Mae ganddi hanes o greu partneriaethau llwyddiannus gyda sefydliadau fel Theatr Soar ym Merthyr, Prifysgol Caerdydd, Celfyddydau Anabledd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru ac Artworks Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a llawer o sefydliadau eraill.

Dywed Jên ei bod wrth ei bodd yn ymuno â thîm Artis Cymuned, sy'n darparu profiadau celfyddydol o ansawdd uchel gan greu buddiannau go iawn gyda phobl o bob oed trwy'r cymoedd canolog.

Meddai Prif Weithredwr newydd Artis Cymuned, Jên Angharad:

“Mae gan Artis record hir o greu cysylltiadau rhwng pobl a'r celfyddydau, a dwi wrth fy modd i gael cyfle i weithio gyda'i staff talentog a'r gwirfoddolwyr ymroddedig. 

"Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous ar gyfer y celfyddydau - cyfnod pan mae 'na gydnabyddiaeth gynyddol o fuddiannau iechyd, lles, cymdeithasol a chymunedol o gymryd rhan mewn profiadau creadigol a diwylliannol, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol dysgu creadigol ar gyrhaeddiad yn ein hysgolion.

"Fy uchelgais i ar gyfer Artis yw i ni adeiladu ar lwyddiannau'r blynyddoedd diweddar.  Dwi'n credu'n gryf yn y posibiliadau mae modd eu creu wrth gydweithio, ac rwy'n edrych ymlaen at feithrin partneriaethau creadigol a rhannu arbenigedd a'n profiadau rhwng ystod eang o sefydliadau a sectorau yn ein rhanbarth.

"Dewch i ni ddangos i'r byd y pwerdy creadigol sydd yma, yn y cymoedd."  

Meddai Cadeirydd Artis Cymuned, Jonathan Huish:

“Rwyf mor falch i allu cyflwyno unigolyn sydd mor dalentog a phrofiadol fel Prif Weithredwr newydd Artis.  Mae Jên wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol ac mae'n gwybod pa heriau sy'n ein hwynebu a'r potensial creadigol cyffrous sy'n bodoli o fewn ein cymunedau.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi er mwyn hybu achos y celfyddydau cyfranogol yn yr ardal hon, ac i weld pa fuddiannau y bydd ei chynlluniau personol yn dod â nhw i'n sefydliad."

Mae Jên yn olynu Wendy York a gyhoeddodd yn gynharach eleni y byddai'n gadael ei swydd ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.

Ychwanegodd Jonathan Huish:

"Ar ran y bwrdd cyfan, fe hoffwn ddiolch i Wendy York am ei harweinyddiaeth, ei hangerdd a'i hymroddiad dros y deng mlynedd diwethaf.  Mae Wendy wedi gweithio'n ddiflino dros Artis a'n cymuned, ac rydym yn dymuno'n dda iddi i'r dyfodol."