Mae’r rhaglen yn galluogi artistiaid a chynhyrchwyr newydd a sefydledig i gymryd gwaith am y tro cyntaf i Ŵyl Ymylol Caeredin. Bydd y rhaglen yn cydredeg â menter arddangos sydd wedi’i churadu Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru yng Nghaeredin.

Gan siarad heddiw, dywedodd Maggie Dunning, Rheolwr Prosiect Cymru yng Nghaeredin:

“Dyma ddatblygiad cyffrous newydd sydd â’r nod o greu llwybrau ar gyfer artistiaid a chwmnïau creadigol yng Nghymru. Os oes gennych ddeunydd da, sydd dim eto’n barod i fynd i Ŵyl Ymylol Caeredin, medrwch fanteisio ar y rhaglen newydd hon i roi prawf ar syniadau, adeiladu cysylltiadau newydd a gweld gwaith o safon uchel.

“Mae’r llais unigol a mynegiant personol Cymru o’r pwys mwyaf inni. Rydym ni am gadw amrywiaeth, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd ein gwaith ac rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ragoriaeth wrth gefnogi celfyddyd fentrus, arloesol a herfeiddiol.

"I gael yr effaith fwyaf a'r gwerth gorau o’r rhaglen, byddwn ni’n cydweithio â'n hasiantaeth ryngwladol fewnol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a'n partneriaid, Cymdeithas Gŵyl Ymylol Caeredin.

Mae manylion pellach a ffurflen gais ar gael o ymweld â'r dudalen hon

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener, 17 Mai 2019