Rhaid i’ch digwyddiadau fod:

● yn gyfranogol a chreadigol

● naill ai’n rhad ac am ddim neu’n adennill costau’n unig

● yn digwydd ym Mhrydain neu Iwerddon, 11-19 Mai 2019

Yn 2018 roedd dros 1,400 o ddigwyddiadau creadigol yn yr ŵyl 9 diwrnod. Gyda chymorth ein partneriaid, ein huchelgais yw cynyddu’r ŵyl i fod yr un fwyaf yn ei maes. Bob Mai rydym ni am hyrwyddo cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir archwilio a dathlu eu creadigrwydd yn eu cymuned.

Islwythwch logos, templedi poster, templedi datganiad i'r wasg a phecyn cymorth gydag awgrymiadau am gynllunio a hyrwyddo eich digwyddiad ar ein gwefan - www.cerigreu.cymru/toolkit