Mae cynllun y Civic Trust Awards yn codi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig sy’n cael ei chwarae gan bensaernïaeth, tirlun a dylunio trefol o’r radd flaenaf o ran gwella’r amgylchedd. Mae’r cynllun yn annog safonau uwch dros Y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol drwy gydnabod prosiectau sy’n sefyll allan ym mhob maes o ddylunio amgylcheddol.

Derbyniodd Pontio Wobr, fel un o dim ond 49 o Enillwyr Cenedlaethol/Rhyngwladol i dderbyn Gwobr neu Cydnabyddiaeth Arbennig o 240 o geisiadau am wobr Civic Trust Award. Mae’r tîm asesu ar gyfer y Civic Trust Awards yn cynnwys aseswyr pensaernïol, dylunio cyffredinol a chymunedol. Aeth Pontio wedyn ymlaen i gyrraedd yr wyth olaf am Wobr Arbennig.

Cafodd y cais am Wobr ei gyflwyno gan y penseiri Grimshaw. Dywedodd Kirsten Lees, Partner Gweithredol Grimshaw, “Mae’n bleser gennym dderbyn y gydnabyddiaeth yma am broject Pontio. Mae dyluniad Grimshaw ar gyfer Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn uno Prifysgol Bangor a dinas Bangor mewn cynllun cofiadwy, sydd erbyn hyn yn leoliad poblogaidd i’r cyhoedd. Mae’r ganolfan yn ‘pontio’ yn gorfforol campws uchaf ac isaf y Brifysgol drwy drefn grisiog o derasau cyhoeddus sy’n cysylltu ac yn llifo mewn i ‘stryd fewnol’. Mae’r ‘stryd’ yma’n deillio o’r cysylltiad gweledol newydd rhwng y Borth Coffa o’r 1920au drwodd i adeilad cofrestredig trawiadol Gradd 1 Prif Adeilad y Celfyddydau.”

O fewn y ganolfan, mae sawl amgylchedd hyblyg gydag ystod o ardaloedd perfformio tu mewn a thu allan, gan gynnwys theatr hyblyg 490-sedd, sinema a theatr stiwdio. Mae darlithfa i 500 yn eistedd ar ben y theatr hyblyg ac yn cyd-fynd â’r gofodau dysgu cymdeithasol, undeb y myfyrwyr, gofod arloesi sy’n cynnwys cyfleusterau modern ar gyfer dylunio a chreu, a llefydd bwyd a diod.

Dywedodd y beirniaid fod Pontio ‘wedi ei gynllunio’n dda ar safle o lethr anodd, oedd wedi ei ddatblygu er mwyn darparu defnydd cynwysiedig o ofodau.”

Ychwanegodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, “Ein bwriad wrth ddatblygu’r project yma oedd darparu i’r Brifysgol ac i’r gymuned leol ganolfan broffesiynol o’r radd flaenaf fyddai’n dyfnhau ein cyfraniad at weithgareddau artistig a diwylliannol yr ardal a’n ymgysylltiad â’r gymuned leol, yn cyfrannu at adfywiad y ddinas ac yn adeiladu ar y berthynas rhwng ein academyddion a’n cymuendau lleol, yn ogystal â darparu pwynt mynediad i’r Brifysgol yn ehangach.”

Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, “Mae’n bleser gennym dderbyn y wobr yma. Mae’n amlwg o’r niferoedd sy’n dod yma, fel aelod o’r gynulleidfa neu i gymeryd rhan, fod Pontio wedi cymryd ei lle yng nghalonnau llawer o’r gymuned leol. Mae’r Wobr hon felly hefyd yn deyrnged i rai sydd wedi bod yn rhan o siwrne Pontio ac sydd wedi dod i’r adeilad i ymwneud â’r gweithgareddau ers iddo agor.”

Mae Pontio wedi ei ariannu gan Brifysgol Bangor, Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.