Mae'r Encil Greadigol yn lle i adnewyddu ac adfywio eich creadigrwydd. Math o seibiant sba i'ch meddwl. Ynghyd â grŵp bach o weithwyr creadigol proffesiynol, cewch gyfle i ymlacio, myfyrio a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatrys heriau creadigol.
Fe’i cynhelir ym mis Mehefin dros dri diwrnod a dwy noson ar ymyl mynyddoedd hardd Bannau Brycheiniog yng Nghymru. Byddwch yn aros mewn ffermdy canoloesol moethus wedi'i drawsnewid ac yn cymryd rhan mewn gweithdai a sgyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ryddhau'ch creadigrwydd.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'ch cyd-fynychwyr, gan ddod i'w hadnabod dros giniawau blasus ac o amgylch y pwll tân. A bydd cyfle i chi ddod yn nes at natur ar daith gerdded fynydd dywys, yn y pwll nofio naturiol neu grwydro yng nghanol y dolydd blodau gwyllt.