Bydd prif fardd Cymru yn darllen "cerdd ddyrchafol" a ysgrifennwyd i godi calon pobl yn ystod Covid mewn gŵyl gerddoriaeth.
Bydd Mererid Hopwood, Archdderwydd Cymru, ymhlith sêr atyniadau digwyddiadau ymylol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, rhwng 11 a 20 Medi.
Yn ôl Mererid, mae ganddi atgofion melys o Ddyffryn Clwyd gan mai hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan gafodd ei chynnal yn Ninbych yn 2001.
Mae'r bardd o Gaerdydd hefyd wedi ennill y Goron a’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod gan ddod y trydydd person yn unig i ennill tair gwobr fawr yr ŵyl, yn ogystal â bod yr ail ferch i fod yn Archdderwydd.
Cynhelir ei darlleniad yng nghaffi Jacob's Ladder am 9.30pm ddydd Iau, Medi 18, yn dilyn y cyngerdd gyda'r nos yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar draws y ffordd.
Dywed y trefnwyr fod niferoedd yn "gyfyngedig iawn" felly dylai unrhyw un sydd eisiau mynychu e-bostio admin@nwimf.com i archebu eu lle am ddim.
Dywedodd Mererid: "Mae digwyddiadau o'r fath yn aml yn creu awyrgylch eithaf hudolus ac rwy'n gyffrous i gael fy ngwahodd i gymryd rhan.”
"Byddaf yn darllen cerddi o fy llyfr newydd 'Mae' yn ogystal â cherddi eraill. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg ond rwyf wedi ysgrifennu cerddi yn Saesneg ac mae sawl un arall wedi cael eu cyfieithu."
Mae ‘Mae’ yn gasgliad o gerddi a ysgrifennwyd mewn cynghanedd neu’r wers rydd ers cyhoeddi ‘Nes Draw’ yn 2015. Mae'r cerddi yn ymwneud â heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchedd a bod yn fam ac yn nain.
Daw teitl y casgliad newydd o gerdd a gomisiynwyd yn fuan ar ôl i’r Llywodraeth osod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.
"Fe wnaeth rhywun o S4C ffonio a dweud eu bod eisiau cerdd i godi calon pobl oedd yn sownd gartref. Wrth gwrs, roeddwn yn yr un sefyllfa gartref yng Nghaerfyrddin ond sylweddolais yn gyflym fod popeth arall ym myd natur yn ei le fel arfer.”
"Rydw i'n aml wedi meddwl tybed a ofynnwyd i feirdd mewn gwledydd eraill ysgrifennu cerddi dyrchafol yn ystod cyfyngiadau Covid," meddai.
Dywedodd Paul Mealor, sydd bellach yn ei ail flwyddyn fel Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, fod yr ŵyl yn cynnwys amrywiaeth o gyngherddau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau ymylol a gweithdai cymunedol.
"Dyma'r ail dro i ni gynnal y digwyddiadau ymylol hyn ac roedden nhw’n hynod lwyddiannus y llynedd felly rydyn ni wedi penderfynu y byddan nhw'n dychwelyd eto eleni.”
"Roedd ein noson gomedi gyntaf yn llwyddiant mawr a bydd Manon James eto yn ymddangos yn y New Inn ynghyd â Katie Gill a bydd hi'n siwr o fod yn noson llawn chwerthin a mwy o chwerthin", meddai.
Ymhlith y digwyddiadau ymylol eraill bydd y pianydd Cyrill Ibrahim yn perfformio rhaglen o'r enw 'Harmonie du Soir' yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Bydd y gitarydd jazz Joshua Lascar yn y New Inn ddydd Sadwrn, Medi 13 a bydd noson o ganeuon Americanaidd a Cabaret yn yr un lleoliad gyda Jillian Bain Christie a John Frederick Hudson ddydd Gwener, Medi 19.
Nid dyma'r tro cyntaf i Mererid weithio gyda Paul Mealor.
Dywedodd: "Yn ystod Covid ysgrifennais y geiriau ar gyfer darn a gyfansoddwyd gan Paul o'r enw Gweddi Cymru. Roedd ar gyfer cyngerdd blynyddol Dydd Gŵyl Dewi y BBC ac roedd fy ngeiriau yn cael eu darllen dros y gerddoriaeth.”
"Yn ddiweddarach ysgrifennais y geiriau ar gyfer Tangnefedd, darn ar gyfer corau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yn ystod Covid gan nad oedd modd teithio, cawsant eu hanfon i'w recordio a'u cyflwyno ar fideo. Roedd yr ymateb yn eithaf rhyfeddol," meddai.
Mae'n bosib cynnal yr Ŵyl dioch i gefnogaeth arbennig gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Celfyddydau a Busnes Cymru a Tŷ Cerdd.
Yn serennu yng nghyngerdd agoriadol yr ŵyl ar ddydd Iau, Medi 11, bydd y tenor o Malta, Joseph Calleja, ac ef ym marn Paul Mealor yw "tenor telynegol gorau'r byd".
Ymhlith y prif berfformwyr eraill eleni mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y grŵp corawl rhyngwladol Apollo5 a'r Black Dyke Band enwog.
Yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl eleni bydd y gyfansoddwraig ffilm a theledu nodedig, Debbie Wiseman OBE.
Bydd ei cherddoriaeth i ffilmiau a rhaglenni fel Wolf Hall, Wilde, Father Brown, Tom's Midnight Garden, Jack Frost, The Glorious Garden a llawer o rai eraill yn cael eu chwarae gan gerddorfa NEW Sinfonia.
Uchafbwynt arall eleni fydd ail gystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine a lansiwyd y llynedd ac sy'n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a sefydlwyd gan brif noddwyr yr ŵyl, sefydliad gofal Parc Pendine.
Bydd y cyngerdd olaf yn cynnwys Cymdeithas Gorawl Gogledd Cymru o dan eu harweinydd Trystan Lewis.
Mae digwyddiadau a phrosiectau cymunedol eraill sy'n cael eu cynnal yn yr ŵyl yn cynnwys cyngerdd Babanod a Phlant, cyngerdd dementia-gyfeillgar a gweithdai Ymwybyddiaeth Ofalgar trwy Gerddoriaeth.
Bydd cerddorion Live Music Now Cymru yn llwyfannu perfformiadau cymunedol rhyngweithiol mewn nifer o leoliadau cymunedol tra bydd prosiect celf gymunedol gyda'r artistiaid gweledol Ben Davis a Jude Wood yn creu arddangosfa gelf yn yr eglwys gadeiriol ar y thema 'canfyddiadau'.
Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr Ŵyl ar gael ar-lein yn https://nwimf.com. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 07471 318723 (Dydd Mercher – Dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Dydd Llun – Dydd Sul, 10 - 8).