Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gyhoeddi clyweliadau y Cwmni Ifanc ar gyfer pantomeim Dick Whittington 2024 sydd ar y gweill. Mae'r cyfle cyffrous hwn yn gwahodd perfformwyr ifanc talentog o fwrdeistrefi Casnewydd a Thorfaen, o 9 i 14 oed (mae cyfyngiad taldra o uchafswm o 5'3"), i arddangos eu sgiliau a dod yn rhan o brofiad theatr hudolus.
Cynhelir clyweliadau Ddydd Sul 8 Medi, 2024, lle bydd actorion brwdfrydig yn cael cyfle i ddawnsio a chanu am le yn un o dri thîm perfformio: Llygod mawr, Cathod a Môr-ladron. Bydd y cofrestriadau yn agor am 9:30am gyda chlyweliadau yn cael eu cynnal rhwng 10am - 3pm.
Bydd y clyweliad yn cynnwys y bobl ifanc yn dysgu symudiadau dawns fer gan ganu fel grŵp. Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn iddyn nhw adrodd cerdd fer iawn neu jôc o'u dewis. Mae croeso i bob plentyn talentog, p'un a ydynt yn mynd i ysgol ddrama, yn astudio drama neu ddawns yn yr ysgol neu'n edrych i esgyn i’r llwyfan am y tro cyntaf.
Bydd perfformwyr ifanc yn cael cyfle i berfformio ochr yn ochr â ffefrynnau'r pantomeim, Richard Elis, Gareth Tempest ac Aled Pugh yn y cynhyrchiad eleni. RHAID i'r rheiny sy’n dod i’r clyweliad fod ar gael ar gyfer pob dyddiad drwy gydol yr ymarferion a’r perfformiadau.
Mae'r cynhyrchiad tymhorol poblogaidd hwn yn addo siwrne fywiog, o ymarferion i gyfres o berfformiadau sy'n cwmpasu 27 Tachwedd 2024, i 4 Ionawr 2025.