Ymunwch â ni i ffurfio grŵp i ddysgu a helpu i recordio'r cyfansoddiad gwreiddiol, Britheg Frown, gan y gyfansoddwraig o Gymru Emma Daman Thomas, mewn cydweithrediad ag Ysgol Gynradd Saint-y-brid, Prosiect y Fritheg Frown a'r artist Bettina Furnée.
BETH FYDDWCH CHI'N EI WNEUD
Byddwch yn dysgu ac yn recordio cân hyfryd a gwreiddiol am y glöyn byw sydd mewn perygl, y Fritheg Frown.
Byddwch yn gweithio gyda'r arweinydd côr adnabyddus, Jenny Moore (F*Choir, Chapter Arts, BBC Singers, The Barbican, 15+ mlynedd o brofiad).
Ymunwch â 6-10 o gantorion mewn harmoni tair rhan. Mae rhywfaint o brofiad canu a'r gallu i ddysgu o'r glust yn ddefnyddiol, ond nid oes angen unrhyw brofiad proffesiynol!
Rôl wirfoddol yw hon.
DYDDIADAU
Diwedd Mawrth: Anfon y deunyddiau addysgu.
Mercher 2 ac lau 3 Ebrill: Gweithdai (6:30-8:30 PM) yn Eglwys St Bridget, Sant-y-brid.
Gwener 4 Ebrill: Ymarfer llawn gyda'r cyfansoddwr Emma Daman Thomas (6:30-8:30 PM).
Sadwrn 5 Ebrill: Recordio'r sain (AM) a ffilmio (PM) yn Old Castle Down, Sant-y-brid.
Sul 6 Ebrill: Ffilmio wrth gefn (os bydd angen).
Eisiau ymuno neu ofyn cwestiwn?
Cysylltwch â Bettina Furnée: bettinafurnee@gmail.com
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth, sef prosiect cydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), naw elusen amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addo, ac fe’i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.