Ar 3 Hydref, bydd ffilm farddoniaeth newydd a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Taylor Edmonds (cyn-Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar-lein.
Wedi’i chynhyrchu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae Ein Hadlais yn stori hudolus am ferch ddynol sy’n perthyn i’r byd naturiol. Mae'r ferch yn cael ei galw nôl i fyd natur gan y môr trwy freuddwyd o ddiwedd y ddaear. Mae’r darn wedi’i ysbrydoli gan y pethau a ddysgodd Taylor yn ystod ei chyfnod fel Bardd Preswyl i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’n archwilio sut rydym ni fel pobl wedi’n cysylltu’n gynhenid â byd natur; ar gyfer ein goroesiad, lles ac ysbrydolrwydd.
Bardd ac awdur o Dde Cymru yw Taylor Edmonds sydd hefyd yn olygydd cyfrannol i Poetry Wales ar hyn o bryd. Bydd ei phamffled barddoniaeth gyntaf Back Teeth yn cael ei gyhoeddi ar 30 Medi 2022 gyda Broken Sleep Books, a’i lansio ar 1 Hydref ochr yn ochr â rhagolwg y fideo Ein Hadlais mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae ei gwaith yn archwilio themâu o fenywiaeth, hunaniaeth, cysylltiad, natur a grymuso.
Yr artist dawns ddawnus Jodi Ann Nicholson a choreograffwyd y darn, yn ogystal â pherfformio ynddi. Buodd Jodi hefyd yn rhan o garfan Hadu’r Dyfodol gyda rhaglen Dyma Gymru yng Nghaeredin yn ddiweddar. Roedd tîm o bobl ifanc greadigol yn gweithio tu ôl i’r lens hefyd, gan gynnwys Josh Hopkin (fideograffi), Hannah Andrews (steilio) a Luna Tides Productions (golygu), gyda chyfieithiad creadigol y gerdd i'r Gymraeg gan Nia Morais.
Bydd premiere y ffilm yn cychwyn am 7pm ar 3 Hydref 2022 ar sianel Youtube Cyngor Celfyddydau Cymru isod.
Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Trwy ei chyfnod preswyl gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Taylor wedi harneisio pŵer barddoniaeth i amlygu thema eleni sef ‘Cymru i’r Byd’, gan archwilio rôl Cymru wrth gyfrannu at newid cadarnhaol byd-eang. Mae Ein Hadlais yn ffilm farddoniaeth hardd, ysbrydoledig sy’n procio’r meddwl, ac yn ein hatgoffa o’n cyfrifoldebau sylfaenol a brys – yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – i’r byd naturiol sy’n ein meithrin a’n cynnal.”
Cefnogwyd y fenter Bardd Preswyl gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.