Dyma gyfle cyffroes i unigolyn deinamig a phrofiadol sy’n angerddol am feithrin cymunedau.

Dyddiad cau: 9am, dydd Llun 3 Mawrth
Cyfweliad: Mercher 26 MawrthMarch
Cyflog: £34,000 y flwyddyn (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
Cytundeb: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 6 mis)
Oriau: 40 awr yr wythnos, oriau ychwanegol i'w cymryd fel amser o'r gwaith (TOIL). Mae rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.

Bydd y Pennaeth Ymgysylltu yn meithrin ein perthnasoedd presennol, yn ogystal â datblygu ffyrdd arloesol o gyrraedd a datblygu cynulleidfaoedd newydd. Rydyn ni am gysylltu’n ddyfnach â nhw, gan greu cyfleoedd cadarnhaol ac ystyrlon ar gyfer ymgysylltu a chyd-greu drwy ddigwyddiadau cyhoeddus bwriadus, dychmygus ac ysbrydoledig.
 

Dyddiad cau: 03/03/2025