Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio mis o ymchwil i hygyrchedd ein gwefan i offer darllen sgrin a ddefnyddir yn gyson gan unigolion dall neu â nam golwg. Pwrpas yr ymchwil, fydd ystyried a oes angen newidiadau i wneud ein gwefan yn haws i’w defnyddio gan unigolion ag anghenion hygyrchedd penodol.
Gan siarad heddiw, dywedodd Pennaeth Cyfathrebu Cyngor Celfyddydau Cymru, Siôn Brynach:
“Pan lansiwyd gwefan newydd y Cyngor nôl yn 2019, roedd hi’n nod bendant gennym i’w gwneud mor hygyrch â phosib i gynifer o ddefnyddwyr â phosib. Roedd yn fater o falchder i ni fod wedi cyrraedd safon AAA o ran hygyrchedd, a rydym wedi gwneud ymdrech fawr ers hynny i gadw’r safon.
“Eto i gyd, dyw llaesu dwylo ddim yn opsiwn, a rhaid bob amser chwilio am y gwelliant nesaf. O’r herwydd byddwn yn holi i’r rheini sy’n defnyddio’n gwefan - trwy gymorth darllenwr sgrin - i’n cynorthwyo dros y mis nesaf, gan holi iddynt lenwi holiadur byr am eu profiad o’r wefan ar ddiwedd eu hymweliad. Bydd yr adborth a gawn o gymorth mawr wrth i ni ystyried y camau nesaf o ran datblygu’r wefan”
DIWEDD 15 Rhagfyr 2021