Mae Ysgol Gynradd Gatholig Bendigaid William Davies, Llandudno yn chwilio am Ymarferydd Creadigol gyda sgiliau cyfryngau digidol i weithio gyda disgyblion Blynyddoedd Cynnar (4 – 6 oed) i ddatblygu celfyddydau mynegiannol / animeiddio / fideo sy’n archwilio themâu addysg grefyddol o fewn y cwricwlwm.

Gan weithio gyda’r cysyniad o ‘Genesis’ fel catalydd ar gyfer syniadau, mae hwn yn ymchwiliad penagored gyda’r cyfle i ddathlu amrywiaeth ein byd – y bodau dynol, tirwedd a bywyd naturiol ynddo. Mae gennym ddiddordeb mewn creu ‘bydau mini’ trwy gyfrwng y celfyddydau mynegiannol/ animeiddio/ fideograffeg / ffilm.

Rydym yn chwilio am rywun gyda dychymyg gwych a sgiliau technegol rhagorol i weithio yn yr ysgol gynhwysol a deinamig hon, i weithio gyda’r disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol creadigol ac i greu fideo byr o ansawdd uchel o’r broses.

Ffi: £300 y diwrnod
gyda disgwyliad o weithio 10 dydd Mercher yn ystod tymor yr Hydref dechrau dydd Mercher 18 Medi 2024.

Anfonwch CV ac amlinelliad byr o sut y byddech chi'n mynd at y prosiect i

jane@macfarlan.co.uk (Asiant Creadigol)

Michelle.McManus@bwilliamdavs.conwy.sch.uk

Am fwy o wybodaeth / sgwrs anffurfiol

cysylltwch â'r Asiant Creadigol Jane MacFarlan

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 8 Mai 2024

Cyfweliadau: Dydd Iau 23 Mai 2024

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu ddarparu tystiolaeth o DBS diweddar drwy'r gwasanaeth diweddaru cyn y gall y prosiect ddechrau.

Mae’n hanfodol bod yr Ymarferydd Creadigol wedi derbyn hyfforddiant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Darperir hyfforddiant a bydd yn rhaid ei gynnal os nad yw'r ymgeisydd llwyddiannus eisoes wedi cael yr hyfforddiant hwn.

Dyddiad cau: 08/05/2024