‘All archwiliadau creadigol i Ddiwylliant Cymru ddatblygu hyder mewn llafaredd trwy gyfrwng y Gymraeg i ddosbarth gallu cymysg ym mlwyddyn 8?’

Mae Ysgol Calon Cymru yn Ysgol Uwchradd sydd â dwy ffrwd gyda champysau yn  Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt. Bydd y project YCA hwn yn gweithio gyda dosbarth Blwyddyn 8 yn y ffrwd Gymraeg yn Llanfair-ym-Muallt.

Hoffem gael 1 neu 2 Ymarferwr Creadigol i weithio gyda ni ar archwiliad hwyliog a deniadol i Ddiwylliant Cymru.

Ein prif ffocws yw adeiladu hyder a geirfa Llafaredd Cymraeg trwy brofiadau dysgu dynamig a dilys. Ar yr un pryd bydd hyn yn galluogi athrawon i adeiladu a datblygu strategaethau addysgu newydd a dilys i’w galluogi i addysgu a chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n fwy creadigol.

Ymarferwyr Creadigol

Hoffem pe bai o leiaf un o’n Hymarferwyr Credigol yn medru cyflwyno eu hymrwymiad gyda’r dosbarth trwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hynny, fe fydd yn broject dwyieithog a chynhelir pob cyfarfod cynllunio a dogfennaeth ysgrifenedig a llafar trwy gyfrwng y Saesneg/yn ddwyieithog. Efallai y bydd peth rhannu gyda disgyblion y ffrwd Saesneg tuag at ddiwedd y project ond byddwn yn edrych ar hyn pan fyddwn yn fwy clir ynglŷn â beth sydd ynghlwm yn y project. 

Byddem hefyd yn hapus i ystyried cydweithrediad o 2 Ymarferwr Creadigol gydag un yn siradwr Cymraeg ac un heb fod yn siarad yr iaith. Felly, mae pob croeso i chi ymgeisio os nad ydych yn ymarferwr Cymraeg ei iaith ond bod gennych ddiddordeb mewn cydweithio ac yn barod i ddefnyddio peth Cymraeg a bod yn ddysgwr gyda’r disgyblion.

 

Rydym yn agored i geisiadau gan amrediad eang o Ymarferwyr Creadigol arfaethedig, gan gynnwys:

Artistiaid sawl disgyblaeth, Gwyddonwyr, Haneswyr, Beirdd, Ysgrienwyr Creadigol, Adroddwyr Straeon, Gwneuthurwyr Ffilm, Ymarferwyr Digidol, gwneuthurwr Drama/Theatr, ymarferwyr Dylunio Technoleg, Darlunwyr

 

Mae blwyddyn 8 yn dweud yr hoffent ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i:

Ddeall mwy o Gymraeg, Siarad iaith fy ngwlad, Deall pethau nad yw pobl eraill yn eu deall, siarad mwy nag un iaith, deall y byd.

Pan ofynnwyd iddynt beth am ddiwylliant Cymru oedd o ddiddordeb iddynt, dywedasant:

Llewelyn, Storïau’r Mabinogi, Celf y mae pobl yn ei greu, Artistiaid Cymru, Picau ar y Maen, Canu Cymraeg, tirwedd, ffermio, Chwaraeon yn arbennig Rygbi

Pan ofynnwyd iddynt sut oeddent yn hoffi bod yn greadigol:

Celf, Dylunio, Lluniadu, Ffotograffaeth, Chwaraeon, Bod gyda phobl

 

Hoffem ofyn o’r Ymarferwyr fod yn:

  • Awyddus i gydweithio gyda’r disgyblion ac athrawon ac os yn berthnasol, Ymarferwr Creadigol arall, i greu, cyflwyno a gwerthuso’r project.
  • Medru gweithio i ddatblygu syniadau fel tîm.
  • Hapus i fod yn rhan o broject dwyieithog gyda grŵp o ddysgwyr yn y Ffrwd Gymraeg gyda Chymraeg yn brif ffocws.
  • Creadigol a brwdfrydig i ddatblygu dulliau dilys trwy ddull dychmygus ac ymarferol.
  • Meddu ar beth profiad o weithio gyda dysgwyr Blwyddyn 8 (12/13 mlwydd oed).
  • Brwdfrydig ynglŷn â gwrando ar lais y disgybl trwy gyfnodau gwahanol y project
  • Medru gweithio gyda disgyblion o gefndiroedd gwahanol gydag amrediad o alluoedd ac anghenion gwahanol a gwerthfawrogi eu rhwystrau a rhwystredigaethau.
  • Hyfforddi athrawon dosbarth yn y sgiliau creadigol y gallant eu defnyddio wrth addysgu.
  • Medru ysbrydoli disgyblion i fwyhau eu profiadau dysgu ac ymfalchïo yn eu cyraeddiadau. 
  • Medru, ac yn hapus i, gyflwyno dull addysgu cyfunol pe bai angen.

 

Rydym yn agored i geisiadau gan Ymarferwyr Creadigol arfaethedig sydd  heb weithio ar y Rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol o’r blaen a darperir hyfforddiant gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y rheiny nad ydynt eisoes wedi cael hyfforddiant Ysgol Greadigol Arweiniol ar gyfer Ymarferwyr Creadigol.

 

Bydd yr hyfforddiant yn digwydd ar 10fed Ionawr 2024

 

Rhaid eich bod eisoes wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant cyn hyn neu bod ar gael ar y dyddiad hwn i gael eich ystyried.

Os ydych am wybod mwy am Ysgolion Creadigol Arweiniol cliciwch yma:

https://arts.wales/funding/get-started/creative-learning/lead-creative-schools-scheme

 

Ffi

£300 y dydd 

Cyfanswm y dyddiau Ymarferwyr Creadigol yw tua 12.

Pe bai cydweithrediad rhwng 2 YC yn digwydd byddem yn edrych ar rannu’r dyddiau gyda’r YC llwyddiannus fel rhan o’r cynllunio project gan y byddem yn rhagweld peth gwaith unigol a pheth gwaith ar y cyd.

Mae’r ffïoedd yn bodli i dalu am gynllunio, gweithredu a gwerthuso.

 

Mae yna gyllideb ybach ychwanegol ar gyfer deunyddiau.

 

Dyddiadau / Llinell Amser

Dyddiad Cau:                                                   Dydd Llun Tachwedd 27ain 2023

Cyfweliadau:                                                I’w cynnal mewn person yn yr ysgol ar

Ddydd Llau 30ain  Tachwedd 2023

Cynllunio Project:                                        1 diwrnod cyfarfod cynllunio wedi’i rannu rhwng:

             1 x ½ diwrnod yr wythnos yn dechrau 4 Rhagfyr 2023

ac

1 x ½ diwrnod Dydd Iau 11eg Ionawr 2024

Gweithredu’r Project:                                Ionawr - Mawrth 2023 – dyddiadau i’w cadarnhau yn y cyfarfod cynllunio cyntaf

Gwerthuso’r Project:                                  Mawrth - Mai 2024 – dyddiadau i’w cadarnhau yn y cyfarfod cynllunio cyntaf

 

 

 

Sut i Ymgeisio:

 

  • Llythyr eglurhaol neu ffilm fer yn dweud wrthym
    • pam hoffech fod yn Ymarferwr Creadigol gdya ni
    • amlinellu eich dull
    • sut rydych yn ateb y wybodaeth, sgiliau a phriodweddau a ddisgrifiwyd uchod.
    • A fyddech gystal â dweud wrthym os ydych wedi ymateb i Ddysgu Creadigol arall trwy friffiau’r Celfyddydau ac Ysgolion Creadigol Arweiniol  o’r blaen er nad ywn hanfodol eich bod wedi ymwneud â hyn ac rydym yn agored i ymgeiswyr nad ydynt wedi cymryd rhan yn yr Ysgolion Creadigol Arweiniol o’r blaen.

Cofiwch ymateb i bwyntiau penodol y briff hwn.  Ni ddylai eich ymateb fod yn fwy na 2 ochr o A4 neu ffilm 5 munud.

  • CV ac enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol fel darluniadau, ffilmiau, clipiau sain a/neu gysylltiadau gwe (heb fod yn fwy na 8MB os ydych yn e-bostio dogfennau).
  • Manylion canolwr
  • Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS a weithredir gan yr ysgol os nad oes DBS digonol eisoes mewn grym. Rhowch wybod i ni os oes gennych un neu os byddech angen un.

 

Noder: bydd y cyfweliadau’n cynnwys gweithdy 10 -15 munud gyda’r dosbarth Blwyddyn 8.

E-bostiwch:

Ross Bennett (Cydlynydd Ysgol)

BennettR57@Hwbcymru.net

ac

Ellie Turner (Asiant Creadigol)

ellie@ellieturner.co.uk

Dyddiad cau: 27/11/2023