Cylch Meithrin LLanrhaeadr
Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr, Dinbych, LL16 4NL
Dyddiad Cau: 12pm, Dydd Sul 21 Ionawr.
Cyfweliad: Dydd Llun 29 Ionawr PM. Yn bersonol yn y lleoliad
Prif ffurfiau ar Gelfyddyd: Dawns, Drama, Arbenigwr Awyr Agored
Rydym yn chwilio am:
Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am rywun sydd wedi cael profiad o weithio gyda phlant 3-4 oed.
Rydym yn chwilio am berson sy’n hwylusydd, yn gydweithredwr ac yn alluogwr a all gefnogi’r plant a’r staff yn eu datblygiad creadigol.
Hoffai'r lleoliad ddatblygu eu sgiliau a'u hyder ym meysydd drama a dawns y tu fewn a thu allan. Maent hefyd yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio eu gofod awyr agored hyfryd.
Ffi prosiect: £1050
• Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill a Mehefin.
• 7, hanner diwrnod (12:45 - 3)
• £150 yr hanner diwrnod
• Cyfraniad tuag at deithio
Diwrnod Hyfforddiant: 19 Chwefror, Venue Cymru.
Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y diwrnod hyfforddi a chynllunio gorfodol hwn.
Mae taliad ychwanegol ar gyfer y diwrnod hwn.
Gofynion cais:
• Llythyr cais
• CV
• Dolenni i unrhyw wefannau perthnasol i ddangos eich profiad a'ch gwybodaeth
• Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr
• Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Vickie Fleming.
• Pob cais yn cael ei e-bostio at info@pigtown-theatre.co.uk