Mae’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA); Forget-me-not Chorus, elusen dementia Cymru; elusen iechyd meddwl, Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman; ac Arddangosfa Falcon Doc Penfro – sy’n amlygu’r rôl a chwaraewyd gan Doc Penfro wrth adeiladu llong ofod eiconig y Millenium Falcon yn ystod yr 1970au – oll wedi cyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni.  
 
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol gan ddenu mwy na 1,300 o ymgeision eleni. 
 
Mae’r pedwarawd o Gymru ymysg 17 o brosiectau sydd ar y rhestr fer derfynol o bob cwr o’r DU, a fydd yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus am bedair wythnos i gael eu henwi yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. 

Mae Arddangosfa Falcon Doc Penfro, sy’n cael ei churadu gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro ac a agorwyd gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai eleni, yn adrodd hanes unigryw sut y cafodd seiri llongau yn nhref fechan Doc Penfro yng ngorllewin Cymru eu comisiynu i adeiladu llong ofod eiconig y Millenium Falcon yn ffilmiau Star Wars yn ystod yr 1970au. Mae’r arddangosfa barhaol yn adrodd y stori am sut y cafodd y prop ffilm eiconig 23 tunnell ei adeiladu mewn awyrendy dros dri mis. 

Cafodd yr elusen Iechyd Meddwl, Sefydliad Jac Lewis, ei sefydlu er cof am bêl-droediwr ifanc ac aelod poblogaidd o gymuned Rhydaman a gyflawnodd hunanladdiad trasig yn 27 mlwydd oed yn 2019 wedi pum mlynedd o straffaglu gyda’i iechyd meddwl. Nod yr elusen a sefydlwyd er anrhydedd iddo yw helpu pobl i gael mynediad cyflym at gefnogaeth iechyd meddwl, ynghyd â gwasanaeth cynghori i deuluoedd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r elusen wedi gallu sefydlu gwasanaeth cefnogaeth mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad, sydd wedi helpu dros 1600 o oedolion a phlant ers ei agor ym mis Rhagfyr 2020. 

Wedi’i ddisgrifio fel ‘noddfa i’r enaid’, mae prif elusen dementia Cymru, Forget-me-not Chorus, yn cyflwyno’r llawenydd a ddaw trwy ganu i bobl sy’n byw â dementia a’r sawl sy’n eu cefnogi. Ers 2011, mae’r elusen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ac a ddechreuwyd yng Nghaerdydd, wedi cynnal sesiynau canu wythnosol i bobl â dementia ac wedi ehangu argaeledd ei wasanaethau ers hynny i Gymru gyfan a gweddill y DU. Trwy bump o gorau cymunedol, ugain o gorau ‘Canu Cryf – Singing Strong’ mewn cartrefi gofal, llyfrgell o sesiynau canu am ddim sydd wedi’u recordio o flaen llaw a gwasanaeth ysbyty – mae’r tîm o gerddorion proffesiynol arbennig o fedrus yn cyrraedd dros 1000 o bobl yr wythnos.   

Cyd-sefydlwyd Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) gan ferch o Gymru sef Seren Jones, i annog mwy o bobl mewn cymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd i gymryd rhan mewn nofio ac addysg am ddiogelwch dŵr. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid dyfrol, diogelwch dŵr ac addysg strategol ar draws y DU, mae’r BSA wedi creu partneriaeth gref erbyn hyn gyda Chwaraeon Cymru i wneud nofio a chwaraeon dyfrol eraill yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd. Dyma’r tro cyntaf mae prosiect wedi canolbwyntio ar y mater hwn yng Nghymru. 

Dywedodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Rydym wrth ein boddau i fod wedi derbyn yr enwebiadau neilltuol hyn sy’n amlygu’r gwaith rhagorol mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn eu hardal leol. Yn ystod yr amseroedd heriol hyn, mae’n galonogol gweld cymaint o bobl a phrosiectau yn ymrwymo eu hamser ac egni i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau. 

"Mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn pob wythnos ar gyfer achosion da, fod prosiectau gwych fel y rhain yn gallu gwneud eu gwaith anhygoel a gyda chefnogaeth y cyhoedd, gallent gael eu henwi yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn 2022.” 

I bleidleisio ar gyfer unrhyw un o’r prosiectau hyn, edrychwch ar lotterygoodcauses.org.uk/awards.  Neu yn syml iawn, ewch ati i ddefnyddio’r hashnod Trydar #NLABlackSwimmingAssociation , #NLAForgetMeNot , #NLAJacLewis a #NLApembrokedockfalcon.  Cynhelir y cyfnod pleidleisio o 9am ar 7 Medi tan 5pm ar 7 Hydref.