Mae'r Llinell Fenywod yn lle i gwrdd ag eraill yn y sector creadigol, i gysylltu, rhannu a chael eich ysbrydoli gan siaradwyr gwadd. Wedi'i chynnal gan Emily Bull o Her Mark, mewn partneriaeth â Peak Cymru, mae'r Llinell Fenywod yn ddigwyddiad croesawgar sydd ar agor i fenywod (traws gynhwysol) a phobl anneuaidd. Rydym yn gyffrous iawn i gynnal ein digwyddiad Llinell Fenywod cyntaf yng Nghrucywel fel rhan o daith ar draws De Cymru.
Yn ystod y digwyddiad olaf, cyffrous hwn ar daith y Llinell Fenywod, byddwn yn siarad am yr hyn sydd ei angen ar artistiaid er mwyn i'w gwaith ffynnu, gyda siaradwr gwadd arbennig i'w gyhoeddi'n fuan. Ochr yn ochr â siarad am y pwnc pwysig hwn, bydd cyfleoedd i gysylltu ag eraill, rhannu eich meddyliau ar y pwnc a chael noson o gwrdd â menywod eraill o'r un anian (traws gynhwysol) a phobl anneuaidd sy'n byw yn yr ardal ac yn gweithio o fewn y sector celfyddydau, sydd â diddordeb mewn gwneud hynny, neu'n creu celf fel rhan o'u bywydau.
Rydym yn cydnabod y gall gweithio yn y celfyddydau, a byw mewn lleoliadau gwledig fod yn ynysig. Felly, mae'r digwyddiad cyfeillgar hwn yn anffurfiol iawn ac yn ffordd wych o gysylltu ag eraill.
Os oes angen cludiant arnoch, angen lifft neu os hoffech rannu car ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost at emilybull.coach@gmail.com i drefnu cludiant.
Darperir diodydd a byrbrydau.