Heddiw mae rhaglen y Bont Ddiwylliannol wedi cyhoeddi enwau 20 o bartneriaethau rhwng sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen sydd wedi cael cyfanswm o £310,000 i ddatblygu arferion artistig a phrosiectau, a’r rheini’n edrych ar themâu a materion sy’n wynebu cymunedau yn y naill wlad a’r llall.
Daw’r buddsoddiad gan saith o brif bartneriaid: Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, British Council, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae’r Bont Ddiwylliannol gan hynny’n golygu cydweithio mewn ffordd unigryw rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen.
Rhaglen 2024 - 2025 yw’r trydydd tro i’r rhwydwaith roi cyllid ar gyfer cyfnewid artistig rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen, sy’n golygu bod cyfanswm o 72 o sefydliadau wedi cael eu cefnogi gan y Bont Ddiwylliannol ers 2021, a hynny drwy 35 o bartneriaethau. Mae pedwar o bartneriaethau 2023 - 2024 wedi cael cyllid ychwanegol i ddatblygu’u gwaith, ac mae nifer o’r sefydliadau sydd wedi cael cyllid yn y gorffennol yn parhau i gysylltu a rhannu arferion â’i gilydd.
Cafwyd mwy o ymateb na’r disgwyl i’r alwad agored am ymgeiswyr ar gyfer cyllid yn 2024 - 2025, gyda 138 o geisiadau’n dod i law gan bartneriaethau posibl rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen. Dyna ddangos awch y sector diwylliannol i ddysgu, rhannu a datblygu gwaith sy’n galluogi newid cymdeithasol drwy gydweithio rhyngwladol. Cafodd y ceisiadau eu hasesu a’u hadolygu gan banel annibynnol o weithwyr proffesiynol o’r Deyrnas Unedig a’r Almaen.
Bydd y partneriaethau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn edrych ar amrywiaeth eang o themâu a ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys theatr yn y carchar, gwaith sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc a phobl anabl, y newid yn yr hinsawdd, ymgyrchu dros fudwyr, ffeministiaeth, y celfyddydau gwledig a mwy.
Mae’r partneriaethau o Gymru sy’n cael eu hariannu’n cynnwys partneriaeth sy’n bodoli’n barod rhwng Hijinx Theatre(Caerdydd, Cymru) a tanzbar-bremen e.V. (Bremen, Yr Almaen) a fydd yn dwyn ynghyd artistiaid niwroamrywiol ac artistiaid sydd ag anableddau dysgu i ddatblygu perfformiad theatr stryd ar raddfa fawr, a phartneriaeth newydd rhwng Dyffryn Dyfodol CIC (Ffiwsar) (Llanrwst, Cymru) a Syndikat Gefährliche Liebschaften (Quakenbrück, yr Almaen) a fydd yn gwneud gwaith cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ac yn cwestiynu anghydbwysedd mewn hygyrchedd a grym.
Meddai Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Creadigol, Hijinx:
“Bydd cyllid y Bont Ddiwylliannol yn ein galluogi i ddwyn ynghyd artistiaid niwroamrywiol ac artistiaid sydd ag anableddau dysgu o Gymru a’r Almaen, a byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd i greu a chyflwyno perfformiad theatr stryd ar raddfa fawr: ROBOTS. Bydd y prosiect yn rhoi cyfle unigryw ar gyfer cyfnewid rhwng ein hartistiaid a’n sefydliadau wrth iddyn nhw gydweithio ar greu’r ddrama a’r coreograffi cyn perfformio gyda’i gilydd mewn dwy ŵyl theatr stryd yn yr Almaen.
I rai o’r artistiaid niwroamrywiol a’r artistiaid sydd ag anableddau dysgu a fydd yn rhan o’r prosiect hwn, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw deithio yn rhyngwladol, sy’n gyfle hollbwysig iddyn nhw ddechrau cyflawni eu dyheadau proffesiynol a byw bywydau mwy annibynnol."
Hijinx Theatre (Caerdydd, Cymru) a tanzbar-bremen e.V.
“Mae ein harferion creadigol wedi’u seilio ar lefydd ac ar bobl. Bydd y prif bwyslais ar ardaloedd Meppen yn yr Almaen a Llanrwst yng Nghymru, a bydd cyfle i fynd ar deithiau cyfnewid araf ar rwydwaith rheilffyrdd Ewrop. Bydd y teithiau hyn yn cynnwys pryfocio, gofyn cwestiynau a herio er mwyn edrych ar y broses o deithio, ar y cymunedau dros dro a gaiff eu ffurfio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac ar sut y bydd pobl yn ymateb i’r rhyngweithio â dieithriaid wrth i ni gychwyn sgyrsiau. Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o gysylltu’r celfyddydau a chymdeithas, gyda’r prif nod o ddod i adnabod ein gilydd, ein dulliau a’n harferion gweithio, ynghyd â’n cyd-destun.”
Dyffryn Dyfodol CIC a Syndikat Gefährliche Liebschaften
Ffurfiwyd Dyffryn Dyfodol CIC ar ôl prosiect ymchwil a datblygu dros dair blynedd gan Ffiwsar, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy o’r enw Dyffryn Dyfodol, gyda nawdd cynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Galluogodd hyn bartneriaid i ddod ynghyd ac edrych ar ffyrdd o gydweithio â chymunedau a gweithwyr creadigol yng nghefn gwlad Conwy, ac arweiniodd at greu’r sefydliad newydd hwn.
Dyma bartneriaethau 2024 – 2025:
Haen un (partneriaethau newydd sy’n cael cyllid o hyd at £10k):
- ARCHITEXTS OF CHANGE - Angeprangert! Spoken Word (Weißwasser, Yr Almaen) a Young Identity (Manceinion)
- Pontio Cymunedau Gwledig – Pobl, Proses, Llefydd - Dyffryn Dyfodol CIC (Llanrwst, Cymru) a Syndikat Gefährliche Liebschaften (Quakenbrück, Yr Almaen)
- Chemnitz & Manchester Residency - Quarantine (Manceinion, Lloegr) ac ASA-FF e.V./ Freundinnen- und Förderkreis Arbeits- und Studienaufenthalte in Afrika, Asien und Lateinamerika (Chemnitz, Yr Almaen)
- Co-creating across borders: A tale of two cities - Brighton People's Theatre CIO (Brighton, Lloegr) a’r English Theatre Leipzig (Leipzig, Yr Almaen)
- Collectively Crossing: Affiliation Bridges - Kunstverein Leipzig (Leipzig, Yr Almaen) a Bistro 21 a’r Bidston Observatory Artistic Research Centre (BOARC) (Prenton, Lloegr)
- Colour Stories. Sharing journeys of a dyer's garden - artpark Hoher Berg UG gemeinnützig (Schermbeck, Yr Almaen) a Brink! (Belfast, Gogledd Iwerddon)
- Common Values, Shared Dreams - The Mighty Creatives (Caerlŷr, Lloegr) a Werkhaus e.V. (Krefeld, Yr Almaen)
- Empowering mixedabled/inclusive dance across international communities - Anjali Dance Company (Derby, Lloegr) a com.dance (Horben, Yr Almaen)
- Feminism and Migrant activism - Stellar Quines Ltd (Fife, Yr Alban) ac MPower (Berlin, Yr Almaen)
- New sustainable models for artist-led spaces - Assembly House CIC (Leeds, Lloegr) ac E-WERK Luckenwalde (Luckenwalde, Yr Almaen)
- The Invisible City - Tortoise in a Nutshell (Caeredin, Yr Alban) a Theater Gruene Sosse (Frankfurt, Yr Almaen)
- Uncomfortable Dialogues - Unveiling Marginalized Black Experiences through Dance, Film, and Storytelling - MINCE e.V. (Berlin, Yr Almaen) a Miss Lulu Creates LTD (Llundain, Lloegr)
- Unlocked - Geese Theatre Company (Birmingham, Lloegr) a aufBruch (Berlin, Yr Almaen)
- Wetland: sharing practices of care and hospitality to engage communities and redfine former industrial spaces - Cement Fields (Caint, Lloegr) a Floating e.V. (Berlin, Yr Almaen)
Haen dau (partneriaethau sy’n bodoli’n barod sy’n cael cyllid o hyd at £30k):
- An Audio Hunt in Easterhouse - Produced Moon (Glasgow, Yr Alban) a Storydive (Hamburg, Yr Almaen)
- ENTER: Robots exchange - Hijinx Theatre (Caerdydd, Cymru) a tanzbar-bremen e.V. (Bremen, Yr Almaen)
- Let the Grassroots Grow - SET Centre CIO (Llundain, Lloegr) a riesa efau (Dresden, Yr Almaen)
- My Body is my Castle - An intergenerational and performative research - 4.D (Dortmund, Yr Almaen) ac ACCA (Leeds, Lloegr)
- Rap School of Life - Improving Language and Mental Health - Kanzi GmbH (Berlin, Yr Almaen) a Forward Ever Education CIC (Birmingham, Lloegr)
- The Shake - The MAC (Belfast, Gogledd Iwerddon) a coculture e.V. (Berlin, Yr Almaen)
“Rwy’n falch dros ben bod Hijinx Theatre a Dyffryn Dyfodol CIC wedi’u dewis fel rhan o raglen Pont Ddiwylliannol 2024-2025. Bydd hwn yn gyfle iddyn nhw ymwneud a’u sefydliadau partner yn yr Almaen, gan hwyluso cyfnewid gwybodaeth a phrofiadau mewn arferion cymdeithasol a gwaith cymunedol. Wrth i ni barhau i gydweithio â’r Bont Ddiwylliannol, mae’n gyfle i sefydliadau celfyddydol yng Nghymru gymryd rhan mewn cynlluniau rhyngwladol, gan feithrin cysylltiadau newydd â phartneriaid yn yr Almaen a ledled y Deyrnas Unedig.”
Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru
Gallwch ddod i hyd i fwy o wybodaeth am yr holl bartneriaethau yma ar wefan y Bont Ddiwylliannol.