Heddiw, mae’r Bont Ddiwylliannol a chyd-fuddsoddwyr y gronfa –Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, British Council, y Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru – wedi cyhoeddi pwy fydd yn cael arian yn ystod pedwaredd flwyddyn y cynllun sy’n ariannu partneriaethau rhyngddiwylliannol yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen. 

Mae cyfanswm o £360,000 wedi’i roi i ariannu datblygiad 20 o bartneriaethau a fydd yn rhannu arbenigedd a sgiliau, yn cyfnewid syniadau, ac yn cydweithio ar arferion a phrosiectau artistig sy’n edrych ar themâu a materion sy’n berthnasol i gymunedau yn y naill wlad a’r llall.

Ar ôl galwad agored i sesiynau paru ym mis Medi 2024, cafodd y Bont Ddiwylliannol dros 130 o geisiadau. Bu rheithgor annibynnol o weithwyr proffesiynol yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen yn asesu ac yn adolygu’r rheini. Mae blwyddyn arall o gyllid wedi’i chadarnhau yn 2026 - 2027, a bydd y broses ymgeisio yn agor yn ddiweddarach eleni ar gyfer hynny. 

Mae’r arian yn cael ei roi mewn dwy haen, gyda hyd at £10k ar gael ar gyfer partneriaethau newydd a hyd at £30k ar gyfer partneriaethau sy’n bodoli’n barod. Mae rhaglen eleni’n cefnogi deuddeg o gysylltiadau newydd ac wyth o gysylltiadau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys chwech o bartneriaethau a fydd yn parhau i gael arian gan y Bont Ddiwylliannol. 

Lansiwyd y rhwydwaith cyllido hwn yn 2021, ac mae bellach wedi cefnogi 49 o bartneriaethau drwy 62 o daliadau. Mae hyn yn galluogi cannoedd o artistiaid ac ymarferwyr i weithio gyda miloedd o aelodau’r gymuned mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol ac ar amrywiaeth o themâu. 

Bydd cyllid eleni’n hybu gwaith sy’n edrych ar arweinyddiaeth ymhlith pobl ifanc; adrodd straeon digidol ac egin dechnolegau; dawnsio a symud sy’n cael eu harwain gan bobl anabl; y croestoriad rhwng LHDTCRh+, niwroamrywiaeth ac anabledd; crefftau a phypedwaith o Orllewin Affrica; celfyddydau syrcas; cymunedau alltud; cerddoriaeth; cynhwysiant oedran; materion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’r hinsawdd; treftadaeth ddiwydiannol; a mwy.  

Y partneriaethau o Gymru yn 2025 - 2026 yw:

Haen un (partneriaethau newydd sy’n cael cyllid o hyd at £10k):

  • Act Your Age!: Youth Leadership in Art and Activism: Common Wealth Theatre (Bradford, Lloegr a Chaerdydd, Cymru) a FUNDUS THEATER / Forschungstheater (Hamburg). Cyfnewidfa ar gyfer 15 o bobl ifanc (13-16 oed) o ddinasoedd Hamburg a Chaerdydd i drafod gwahanol ddulliau o ymwneud â’r celfyddydau ac ymgyrchu, a sut y gall hynny hybu a rhoi sail i arweinyddiaeth ymhlith pobl ifanc.
  • Songs of Neighbours and Strangers: Das Clarks (Casnewydd, Caerdydd) a Cargo-Theater (Freiburg, Baden-Württemberg). Edrych ar ddulliau o ymwneud â phobl ac arferion cynaliadwy, gan gynnwys cerddoriaeth ac adrodd straeon, a hynny gyda charcharorion ac unigolion sy’n ei chael hi’n anodd cymryd rhan yn y celfyddydau.

Haen dau (partneriaethau sy’n bodoli’n barod, sy’n cael cyllid o hyd at £30k):

  • Exploring Flows: Dyffryn Dyfodol (Cymru) a Syndikat Gefährliche Liebschaften (Quakenbrück). Mynediad i gefn gwlad: sefydliad yw Dyffryn Dyfodol sy’n gweithio yng nghefn gwlad ac yn canolbwyntio ar ymwneud â phobl yn greadigol i greu newidiadau cadarnhaol i’w cymunedau. Sefydliad sy’n arwain gan artistiaid yw SGL, a hynny yn Quakenbrück, tref fechan yn Sacsoni Isaf. Bydd yr artistiaid yn cysylltu â chymunedau gwledig ledled yr Almaen drwy gelfyddydau perfformio sy’n ymwneud â chymdeithas. Yn Haen 2, bydd y sefydliadau’n cydweithio ar ddau brosiect amgylcheddol: Gofod Glas, sef gwaith Dyffryn Dyfodol am y berthynas rhwng pobl a dŵr croyw, a phrosiect Gimme Moor Syndikat, sef theatr dirwedd yn Emsland am dreftadaeth ddiwydiannol a phryderon am yr amgylchedd. Bydd hyn yn galluogi’r partneriaid i edrych ar sut y mae dulliau a ffyrdd ei gilydd o weithio yn cyd-berthyn yn y byd go iawn, gan gynnwys gwaith gan weithwyr creadigol eraill i werthuso a dogfennu wrth gofnodi a rhannu prosesau a’r hyn a ddysgir. Byddan nhw hefyd yn agor gofodau newydd i gynnal trafodaethau am gelfyddydau sy’n ymwneud â chymdeithas yng nghefn gwlad, ac yn cyflwyno newidiadau yn eu cymunedau drwy weithredu creadigol pendant.

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydyn ni mor falch o weld rhaglen y Bont Ddiwylliannol a’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yn datblygu ac yn tyfu, a hynny drwy flwyddyn arall o brosiectau a phartneriaethau cyffrous. Mae’n wych gweld Dyffryn Dyfodol yn datblygu ar eu partneriaeth bresennol â Syndikat Gefährliche Liebschaften ac yn cael arian o dan haen dau. Rydyn ni hefyd wrth ein boddau’n gweld Common Wealth Theatre a Das Clarks yn cael arian am y tro cyntaf, gan roi cyfle iddyn nhw ddatblygu eu perthnasau a’u gwaith ymhellach â phartneriaid yn yr Almaen.” 

Meddai Common Wealth Theatre a FUNDUS THEATER (Forschungstheater): 

“Mae FUNDUS THEATER | Forschungstheater (Theatr Ymchwil) a Common/Wealth yn teimlo’n gyffrous wrth ddod ynghyd i edrych ar sut y bydd pobl yn eu harddegau’n cymryd rhan yn y celfyddydau ac yn y byd ymgyrchu, ac ar sut y gall hynny roi sail i arweinyddiaeth ymhlith pobl ifanc.Bydd Common/Wealth yn croesawu Theaterberater:innen, grŵp o bobl ifanc sydd o gefndiroedd mudwyr ac sy’n cynghori Fundus Theater am raglennu gwrth-hiliol, i Gaerdydd. Bydd Common/Wealth yn hwyluso cydweithio rhwng Theaterberater:innen ac arweinwyr ifanc o gymunedau dosbarth gweithiol Caerdydd. Bydd y grŵp yn rhannu eu profiadau drwy gelfyddyd ac ymgyrchu, ac yn ymchwilio i’r cyfraniad y mae pobl ifanc wedi’i wneud at arferion celfyddydol cymdeithasol ers y 1960au. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cwmni’r Athro Heike Roms o Brifysgol Caerwysg, ymarferydd/ymchwilydd ym maes celfyddydau plant ac ymgyrchu, sy’n gweithio yng Nghaerdydd ac yn Hamburg, yn ogystal â dau artist hwyluso: Alex Owusu (Hamburg) a Fahadi Mukulu (Caerdydd). Drwy rymuso pobl yn eu harddegau fel cydarweinwyr a chydweithwyr, ein nod yw herio’r hierarchaethau traddodiadol yn y byd celfyddydol a’r byd ymgyrchu. Bydd ein prosiect yn datgelu cyfraniadau hollbwysig pobl ifanc at y meysydd hyn; yn trafod pam nad yw’r cyfraniadau hyn yn cael eu dathlu ddigon; ac yn trafod sut maen nhw’n cynnig modelau i bobl ifanc heddiw fynd i’r afael â’u profiadau o hiliaeth systemig, gwrth-Dduder, ac anghyfiawnder economaidd.”

Meddai Das Clarks a Cargo-Theater: 

“Mae gan Das Clarks a Cargo lawer yn gyffredin o ran ein harferion celfyddydol cymdeithasol cyfranogol; ein hoffter o gerddoriaeth; ein gwerthoedd cyffredin o ran cynhwysiant a grymuso; a’n dyhead i greu gwaith sy’n annog pobl i gnoi cil ac i weithredu. Rydyn ni’n arbennig o gyffrous o gael y cyfle i edrych ar ffyrdd o gefnogi ein gilydd a dysgu gan ein gilydd, yn enwedig o ran gweithio gyda chymdogaethau lleol a phobl sydd â phrofiad o’r system garchardai.”

Meddai Dyffryn Dyfodol a Syndikat Gefährliche Liebschaften: 

“Mae Dyffryn Dyfodol a Syndikat Gefährliche Liebschaften yn parhau i ddatblygu ac edrych ar y gyd-berthynas rhwng eu hymarfer yn y gwledydd, gan ganolbwyntio ar rymuso cymunedau a mynd i’r afael â materion o bwys sy’n dylanwadu ar lefydd gwledig. Drwy ymweliadau dwyochrog a chyfnodau preswyl lle bydd gweithwyr creadigol yn cydweithio drwy ymwneud â chymdeithas, ein nod yw cyflwyno newid cadarnhaol yng nghymunedau cefn gwlad.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau’r Bont Ddiwylliannol yn 2025 - 2026, ewch i:  www.culturalbridge.info