Mae’r Bont Ddiwylliannol yn cefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU a’r Almaen i ddatblygu partneriaethau su’n archwilio arfer celfyddydau cymdeithasol.

Trwy alluogi cysylltiadau newydd a phresennol, mae’r Bont Ddiwylliannol yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i rannu arbenigedd a sgiliau a chydweithio ar arferion artistig a phrosiectau syn archwilio themâu a materion a wynebir gan gymunedau ar draws y ddwy wlad.

Trwy gyd-fuddsoddid gan Arts Council England, Arts Council Norther Ireland, British Council, Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institute London a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r Bont Ddiwylliannol hyd yma wedi cefnogi 49 o bartneriaethau trwy 62 o ddyfarniadau, ar draw pedwar rownd o gyllid ers ei flwyddyn beilot yn 2021. 

Bydd ceisiadau ar gyfer rhaglen 2026-2027 ar agor o’r 1af o Hydref hyd at y 12fed o Dachwedd 2025. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru ac wedi’u rhyddhau ar gyfer ymgeiswyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen y rhain ac wedi gwirio cymhwysedd eich sefydliad cyn ystyried ymgeisio