Bydd yr Athro Medwin Hughes CBE DL yn dechrau yn ei swydd fel Cadeirydd ochr yn ochr â phenodi Louise Mitchell CBE a Sarah Hemsley-Cole, i gryfhau arbenigedd y Bwrdd
Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi cyhoeddi bod yr Athro Medwin Hughes CBE DL wedi dechrau yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, ar ôl i gyfnod Yvette Vaughan Jones yn y swydd ddod i ben ar ôl chwe blynedd.
Hefyd, mae’r Cwmni wedi cyhoeddi bod dau unigolyn uchel iawn eu parch yn y diwydiant creadigol wedi cael eu penodi’n Aelodau Bwrdd, sef: Louise Mitchell CBE, a arferai fod yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gerdd Bryste; a Sarah Hemsley-Cole, rheolwr cynhyrchu uchel ei pharch yn y diwydiant digwyddiadau a sylfaenydd SC Productions Ltd.
Bydd Louise Mitchell CBE yn cynnig profiad helaeth i WNO mewn rheoli lleoliadau ac arwain y celfyddydau. Fel Prif Weithredwr sylfaenol Ymddiriedolaeth Gerdd Bryste, bu’n goruchwylio prosiect £132m i weddnewid y Bristol Beacon – sef y rhaglen gyfalaf fwyaf ym maes y celfyddydau yn Ne Orllewin Lloegr – a agorodd ym mis Tachwedd 2023.
Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Cerddorfa Blant Genedlaethol Prydain Fawr, mae’n aelod o Gyngor Ardal De Orllewin Cyngor Celfyddydau Lloegr, mae’n un o ymddiriedolwyr Impact Scotland, ac mae’n aelod o Gyngor y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol. A hithau wedi ymddiddori’n frwd mewn opera drwy gydol ei hoes, mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o ddatblygu lleoliadau a rhagoriaeth artistig fel ei gilydd.
Mae Sarah Hemsley-Cole yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle hyfforddodd fel myfyriwr Rheoli Llwyfan ôl-radd. Trwy gyfrwng ei chwmni SC Productions Ltd, a sefydlwyd yn 2006, mae wedi cyflwyno digwyddiadau mawreddog ledled y DU ac Ewrop ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 5,000 a 90,000 o bobl, gan weithio gydag artistiaid rhyngwladol yn cynnwys y Stereophonics,, Ed Sheeran a Sam Fender.
Yn ystod y pandemig, cynhyrchodd y Digwyddiad Agoriadol ar gyfer Cofentri, Dinas Diwylliant y DU yn 2021, ac arweiniodd dîm We Make Events Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ar gyfer y diwydiant. Mae’n gydsylfaenydd The Network of Women in Events (NOWIE), sef fforwm ar-lein ar gyfer menywod yn y diwydiant digwyddiadau, ac mae’n danbaid dros hyrwyddo amrywiaeth a doniau ifanc.
Arferai Medwin Hughes fod yn Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn Is-ganghellor Prifysgol Cymru. Yn ystod ei yrfa lewyrchus mewn addysg uwch, sy’n cwmpasu 23 mlynedd, mae wedi arwain rhai o’r prosiectau gweddnewidiol mwyaf yn nhirlun addysgol Cymru ac mae wedi cyfrannu’n fawr at nifer o fentrau strategol yn y celfyddydau yng Nghymru.
Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, a bu’n gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar nifer o bwyllgorau cynghori Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop mewn perthynas â pholisi addysgol a diwylliannol. Mae ei arweiniad a’i wasanaeth helaeth ar draws nifer o gyrff cyhoeddus ac elusennau cenedlaethol yng Nghymru yn cadarnhau ei ymrwymiad a’i ymroddiad i ddatblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy a chadarn.
Ymunodd yr Athro Hughes â Bwrdd WNO ym mis Gorffennaf 2022 ac fe’i penodwyd yn Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol ym mis Ionawr 2024.
Medd yr Athro Medwin Hughes, CBE DL, Cadeirydd WNO: “Pleser yw cael dechrau fy swydd yn swyddogol fel Cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru. Hoffwn estyn croeso i Louise a Sarah – a fydd yn cynnig arbenigedd eithriadol a safbwyntiau newydd amhrisiadwy wrth inni barhau i adeiladu ar enw da rhyngwladol WNO.
"Hefyd, hoffwn ddiolch o galon i Yvette Vaughan Jones am ei hymrwymiad a’i harweiniad yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Mae ei hymroddiad wedi cael effaith barhaol ar Opera Cenedlaethol Cymru, ac rydw i’n ddiolchgar am y sylfaen a adeiladwyd ganddi – sylfaen y gallwn ni barhau i adeiladu arni nawr.”
Medd Louise Mitchell CBE: “Rydw i wedi edmygu Opera Cenedlaethol Cymru ers amser maith – mae’r cwmni’n enwog am ei ragoriaeth artistig ac mae ganddo rôl mor bwysig yn nhirlun diwylliannol Cymru. O’r herwydd, anrhydedd enfawr yw cael bod yn ymddiriedolwr ar adeg mor dyngedfennol a chyffrous yn hanes y cwmni, sy’n ymestyn dros 80 mlynedd.”
Medd Sarah Hemsley-Cole: “Braint yw cael ymuno â Bwrdd WNO. Edrychaf ymlaen at gyfrannu fy mhrofiad mewn rheoli digwyddiadau a chynhyrchu ar raddfa fawr er mwyn helpu WNO i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac adeiladu cwmni opera’r dyfodol.”
Medd Adele Thomas a Sarah Crabtree, Prif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwyr Cyffredinol WNO: “Pleser yw cael gweithio gyda Medwin, ein Cadeirydd newydd, ac estyn croeso i Louise a Sarah. Bydd eu harbenigedd a’u hangerdd mewn arwain y celfyddydau, trawsnewid lleoliadau a rhagoriaeth cynhyrchu yn hollbwysig wrth inni adeiladu cwmni opera’r dyfodol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw wrth inni barhau â’r bennod newydd a chyffrous hon yn hanes Opera Cenedlaethol Cymru.”