Westside Cowboy, Gruff Rhys a Ye Vagabonds i chwarae Eglwys y Santes Fair yn Lleisiau Eraill Aberteifi 2025 …a chyhoeddiad cyffrous heddiw o’r Ail Don o actiau y Llwybr Cerdd!

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi heddiw wedi datgelu’r ail don o artistiaid sy’n ymuno â’r lein-yp ar gyfer ei 6ed rhifyn hir-ddisgwyliedig, a gynhelir o 30ain Hydref i'r 1af Tachwedd 2025.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o dalent sefydledig a newydd o Gymru ac Iwerddon yn perfformio mewn amrywiol leoliadau yn Aberteifi mewn dathliad trochol ledled y dref. Dros y penwythnos, bydd popeth o gaffis i gapeli, bariau i boptai a mannau cymunedol yn dod yn fyw gyda dros 100 o berfformiadau byw yn cwmpasu pob genre.

Cyhoeddir mai prif actau cyntaf yr Eglwys fydd enillwyr Talent Newydd Glastonbury, Westside Cowboy, enillwyr Gwobr Gwerin Radio 1 RTÉ chwe gwaith, Ye Vagabonds, a’r chwedlonol Gruff Rhys, sy’n dathlu rhyddhad ei albwm newydd ‘Dim Probs’, sydd allan y mis Medi yma. Bydd y perfformiadau arbennig hyn hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw ar-lein trwy sianel YouTube Lleisiau Eraill.

Wrth i'r ŵyl ehangu ei lein-yp, bydd dros 50 o berfformwyr yn perfformio eleni mewn 10 lleoliad unigryw dros y penwythnos, gyda Huw Stephens o'r BBC yn dychwelyd fel cyflwynydd.

Artistiaid y Llwybr Cerdd a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:

Afrocluster / Annie-Dog / Basht / Carys Eleri / Clare Sands / Dewin / Dionne Bennett / Internet Fatigue / George Houston / Lisa Knapp and Gerry Diver / Lullahush / Meabh McKenna /  Meryl Streak / Nancy Williams / Piaras O’Lorcain / Súil Amhain / Sexy Tadhg / Sustinere / VRï

Maen nhw'n ymuno â'r artistiaid a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer y Llwybr Cerdd:

Baby Brave / Bruna Garcia / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Ellie O'Neill / God Knows / Gwen Sion / Joshua Burnside / Kidsmoke / Makeshift Art Bar / Molly Palmer / Morn / Qbanaa / RÓIS / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Taff Rapids / Talulah / Tessio / Factory Set / Tokomololo / Tramp / Wrkhouse

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cynnig cymysgedd unigryw o berfformiadau agos atoch a darganfyddiadau cerddorol bywiog, gan arddangos talent annibynnol o Gymru, Iwerddon a thu hwnt. Bydd y Llwybr Cerdd eleni, sydd wedi'i guradu'n ofalus, yn cael ei chynnal rhwng capeli hardd, mannau wedi'u hail-bwrpasu, a lleoliadau annwyl, gan addo penwythnos bythgofiadwy sy'n llawn egni a chysylltiad. Gall mynychwyr yr ŵyl edrych ymlaen at brofi ystod amrywiol o genres, o gerddoriaeth werin draddodiadol a cherddoriaeth gyfoes yn yr iaith Gymraeg i roc Gwyddelig arloesol a synau electronig arbrofol, gan ddathlu'r dreftadaeth gyfoethog a'r creadigrwydd deinamig a rennir rhwng y ddwy genedl Geltaidd hyn.

Yn newydd ar gyfer 2025, bydd cyfle gan bob deiliad band arddwrn yr ŵyl i fynychu perfformiadau'r Eglwys ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gan bob artist slot dynodedig, gyda'r Eglwys yn cael ei chlirio rhwng setiau i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fynychu. Nid oes angen tocynnau ar wahân - ymunwch â'r ciw ar gyfer yr artistiaid yr hoffech eu gweld a phrofi'r hud y tu mewn i Eglwys y Santes Fair.

Bydd setiau’r ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw a setiau DJ o brynhawn hwyr hyd at oriau mân y bore, gyda'r Mwldan yn gwasanaethu fel lleoliad hwyr y nos yn ogystal â hwb yr ŵyl ar gyfer tocynnau a gwybodaeth. Bydd rhagor o fanylion ynghylch artistiaid, lleoliadau ac amserlenni perfformiadau penodol yn cael eu rhyddhau ym mis Hydref ochr yn ochr ag ap yr ŵyl Lleisiau Eraill Byw.

Mae sesiynau Clebran a Chlebran ar y Llwybr yn dychwelyd ar gyfer 2025, gyda sgyrsiau pwerus sy'n ysgogi'r meddwl a syniadau ffres sy'n archwilio'r materion sy'n llunio ein byd heddiw. Bydd rhaglen lawn ar gyfer Clebran yn cael ei datgelu ar ddechrau mis Medi - cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Mae bandiau arddwrn ar gael am ddim ond £65, sy'n rhoi mynediad i bob perfformiad y Llwybr Cerdd, sesiynau Clebran, a pherfformiadau'r Eglwys (gan ddibynnu ar gapasiti). Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael i rai dan 18 oed am £10.

Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym - ewch i archebu eich un chi nawr drwy othervoices.ie ac ymunwch â ni am benwythnos bythgofiadwy arall yng Ngorllewin Cymru!

Meddai Philip King, sylfaenydd Lleisiau Eraill:

“Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddod â Lleisiau Eraill i Aberteifi a bydd ein rhaglen ar gyfer 2025 yn tynnu sylw at yr ystod doreithiog ac amrywiol o gerddoriaeth newydd wych sy’n llifo o Iwerddon a Chymru heddiw. Bydd cyfres sgyrsiau teirieithog Clebran eleni yn edrych ar faterion o bwys trwy lens y lleol, gyda phersbectif sy’n adlewyrchu’r hunaniaethau a rennir yn ogystal â’r nifer o hunaniaethau unigryw yn Iwerddon a Chymru yr ydym yn eu dathlu yma trwy ein hieithoedd a’n cerddoriaeth. Gyda’n partneriaid yn y Mwldan a Triongl, rydym yn ddiolchgar am y cyfle i chwarae ein rhan wrth ddyfnhau a chryfhau ein cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru fel y rhagwelwyd gan ein dwy Lywodraeth yng Nghyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-25. Edrychwn ymlaen at weld Lleisiau Eraill yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

Meddai Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan:

“Rydym wrth ein bodd yn gallu dod â phumed ŵyl gorfforol Lleisiau Eraill i Aberteifi yn 2025. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi gweld twf aruthrol yn nifer y gynulleidfa wrth i’r gair ledaenu am ba mor arbennig yw profiad yr ŵyl hon. Rydym yn barod i groesawu cynulleidfaoedd ac artistiaid o Iwerddon, Cymru a mannau eraill i’n tref fach hyfryd ar ymyl gorllewinol Cymru i greu a rhannu rhywfaint o hud bythgofiadwy. Hefyd mae ein dyled yn fawr i’n harianwyr am gefnogi’r digwyddiad gwych hwn.”

Cynhyrchir Lleisiau Eraill Aberteifi gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl, gyda chefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a BBC Cymru. Caiff Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio ar gyfer darllediad teledu sydd ar ddod ar BBC Cymru ac RTÉ, ac ar BBC iPlayer ac RTÉ Player.

Cadwch lygad allan am fwy o actau a manylion y rhaglen yn dod cyn bo’n hir.

30 Hydref – 1 Tachwedd 2025

Yn fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru  

Bandiau arddwrn dim ond yn £65 am 100+ o berfformiadau dros dri diwrnod

DIWEDD/

🔗 www.othervoices.ie
 📷 Deunyddiau’r wasg - bywgraffiadau artistiaid ar gael ar gais

 📧 Cyswllt y Cyfryngau (DU): Tamsin Davies – tamsin@mwldan.co.uk

 📧 Cyswllt y Cyfryngau (Iwerddon): Alannah McGhee – digital@southwindblows.ie

Other Voices

Cychwynnodd Other Voices fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle, pentref pysgota bychan yng Ngorllewin Iwerddon a dros y 23 mlynedd diwethaf mae’r syniad wedi datblygu. Bellach, mae Other Voices yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr cerddorol – digwyddiad ‘hanfodol ei fynychu’ i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.  Mae wedi arwain at greu cyfres deledu gerddoriaeth ryngwladol ac, yn ei thro, mudiad diwylliannol byd-eang sy'n dathlu straeon lleol ar raddfa ryngwladol. Mae Other Voices wedi teithio i Lundain, Belfast, Efrog Newydd, Austin, Texas a Berlin.

Mwldan
Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, mae’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordio bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 25 aelod staff.

www.mwldan.co.uk | @TheatrMwldan

Triongl
Cwmni cynhyrchu Teledu a Ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno â nhw yn 2018. Mae'r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

www.triongl.cymru | @triongl_tv