Uwch Guradur, Amgueddfa Wlân Cymru
Math o swydd wag: Dros Dro/Llawn Amser
Categori: Curadurol
Ystod cyflog: Gradd E £33,982.83 - £38,718.28
Oriau: 35 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol
Crynodeb o'r Swydd
Prif ddiben y rôl fydd cyflawni nodau Strategaeth Datblygu’r Casgliad yng nghyd-destun Amgueddfa Wlân Cymru a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth strategol ar gyfer y safle.
Democratiaeth ddiwylliannol sydd wrth wraidd datblygu'r casgliad. Byddwch yn gweithio ar y cyd â chymunedau fel cyd-guraduron, casglwyr a phenderfynwyr. Byddwch yn adeiladu ar ffyrdd presennol o gasglu ac yn datblygu methodolegau newydd sy'n sicrhau ein bod yn mynd ati i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau ledled Cymru wrth benderfynu’r hyn y dylem ei gasglu yn hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru a sut. Mae'r meysydd allweddol a nodwyd fel blaenoriaethau ar gyfer datblygu’r casgliad ar y safle hwn yn cynnwys:
- Ymchwilio a chasglu hanes a diwylliant materol sgiliau traddodiadol y diwydiant gwlân yng Nghymru.
- Casglu'r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a ddangosir gan ein crefftwyr cyfoes ar y safle.
- Ymchwilio a chasglu diwylliant materol stori gynaliadwy gwlân yng Nghymru – gan ddisgrifio’i briodweddau, yr ymchwil sy'n dod i'r amlwg ac arloesedd yn y diwydiant a helpu hefyd i wneud y mwyaf o botensial y dirwedd naturiol rydyn ni wedi’n lleoli ynddi.
- Cyflawni Siarter Dad-drefedigaethu Casgliad Amgueddfa Cymru drwy weithio gydag amryw o gymunedau perthnasol i ymchwilio a datblygu ystyron dyfnach ynglyn â rhai agweddau ar hanes y diwydiant gwlân fel bod yr hanesion y maen nhw’n eu cyflwyno yn fwy cytbwys, dilys ac wedi’u dad-drefedigaethu.
Bydd y rôl yn cynyddu gwelededd y casgliad tecstilau gwehyddu cenedlaethol a gedwir yn yr Amgueddfa a mynediad ato, gan sicrhau ei fod wedi'i gatalogio'n llawn ac wedi'i ddigideiddio fel adnodd i gefnogi gwaith dylunwyr a gwneuthurwyr cyfoes, ein rhaglen trwyddedu brand newydd, ac amrywiaeth o ddefnyddwyr eraill.
*Sylwer bod y rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hybrid cyfyngedig.
Swyddi
Uwch Guradur, Amgueddfa Wlân Cymru
Dyddiad cau: 10/07/2025

Dyddiad cau: 10/07/2025