Unlimited Connects Cymru – Ymlaen i’r Dyfodol yw penllanw cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru a’r parth digidol yng ngwanwyn 2020; ariannwyd y gyfres gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, a’i chyflenwi gan Unlimited, sef rhaglen i gomisiynu celf gan artistiaid anabl sy’n gweithio gyda Disability Arts Cymru a nifer o bartneriaid eraill.

Wrth i dirlun Covid symud a newid y sector diwylliant, byddwn yn edrych i’r dyfodol gan ffocysu ar artistiaid a chynulleidfaoedd anabl yng Nghymru; byddwn hefyd yn trafod sut orau i fanteisio ar y foment unigryw hon mewn amser i ddatblygu agenda celf yr anabl gan agor y drafodaeth i bawb, yn cynnwys rhai nad ydynt o bosib wedi cymryd rhan cyn hyn.

Bydd y digwyddiad digidol, undydd yma yn cynnwys amrywiaeth o drafodaethau panel a sesiynau pryfocio; mae wedi ei fwriadu ar gyfer artistiaid, lleoliadau, sefydliadau a chyrff ariannu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac yn gweithio o fewn y wlad. Gallwch ddewis a dethol pa rannau o’r diwrnod yr hoffech chi eu mynychu.

 

10:30 – 11:00

Cynhesu’r cyhyrau

Cyfle ymarferol i ymestyn y cyhyrau a symud er mwyn paratoi
ar gyfer y diwrnod o’ch blaen.

11:30 – 13:00

Y Prif Banel

Efallai bod artistiaid anabl yn fwy profiadol, amrywiol a llwyddiannus nag erioed, ond a ydyn nhw’n dal yn ‘fregus’ yn y byd ôl-Covid hwn? Sut gall y sector diwylliannol yng Nghymru sicrhau bod artistiaid anabl yn dal i gael lle canolog yn eu cynlluniau wrth iddynt ailagor, ailddatblygu ac ailgynllunio eu dyfodol?  

14:00 – 15:00

Sesiynau Pryfocio (dewiswch un i’w fynychu)

Celfyddydau’r Ifanc

Mae Pobl Ifanc Anabl yn wynebu llu o rwystrau wrth gael mynediad i weithgaredd artistig yng Nghymru. Beth allwn ni ei wneud i ddileu’r rhwystrau penodol hynny i bobl ifanc sy’n symud ymlaen?

USP Cymru

Beth sy’n unigryw am Gymru – a sut mae hynny’n ei amlygu’i hun yn ein celf ni, yn cynnwys celf gan artistiaid anabl?
Pa ieithoedd ddylen ni fod yn eu defnyddio ar y llwyfan ac oddi arno?  

Lleoliadau yng Nghymru

Sut gall lleoliadau rannu ymarfer, a rhoi gwell cymorth i artistiaid, cyfranogwyr
a chynulleidfaoedd anabl yn y cyfnod ôl-Covid?

15:30 – 16:00

Sesiwn Cloi

Cyfle i gyfranogwyr rannu eu syniadau ar ddiwedd y dydd a mynegi eu bwriad ar gyfer y dyfodol – felly, beth ydyn ni i gyd yn mynd i’w wneud yn y dyfodol i sicrhau cydraddoldeb, mynediad a chynhwysiad ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd anabl yng Nghymru.

Yn nes ymlaen

Curadu eich noson gelf eich hun

Byddwn yn darparu cyfres o ddolenni fel bod modd i chi guradu eich dathliad eich hun o waith gan artistiaid anabl sy’n weithgar yng Nghymru.

 

 

Bydd mynediad ar gael drwy gydol y dydd. Pan fyddwch yn trefnu lle, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r blwch sy’n gofyn am ofynion mynediad fel bod modd darparu’r rhain lle bo modd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gofyn i bobl drefnu tocyn unigol ar gyfer y diwrnod. Bydd y manylion llawn ynghylch sut i fynychu’r holl sesiynau, a gwybodaeth ychwanegol, yn cael eu darparu’n nes at y diwrnod ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru fel bod modd i chi ddewis a dethol yr elfennau yr hoffech eu mynychu.

Ddiwrnod cyn y digwyddiad, cynhelir sesiwn cyfarwyddo ar gyfer y rhai sy’n anghyfarwydd â’r platform digidol Zoom.

Hefyd …

Rydyn ni’n awyddus i greu peth cynnwys yn dangos rhai o’r ymatebion creadigol unigryw sydd wedi digwydd ledled Cymru ers y cyfnod clo. Gofynnwn yn garedig i chi ddweud wrthon ni am hyd at bum peth rydych chi neu eich sefydliad wedi eu gwneud ar gyfer – neu yn cynnwys – artistiaid, cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd anabl ers mis Mawrth, er mwyn i ni allu eu dathlu gyda chi. Gall hyn fod yn sesiynau penodol rydych wedi eu rhedeg ar gyfer cyfranogwyr anabl neu grwpiau cynhwysol, gwaith rydych wedi ei rannu a chanddo nodweddion mynediad, sgyrsiau rydych wedi eu llwyfannu gyda siaradwyr anabl . . . unrhyw beth rydych wedi ei ddatblygu neu ei ddarparu ers mis Mawrth ar gyfer neu yn cynnwys artistiaid neu gynulleidfaoedd anabl.

Ac i gloi . . .

Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni’n awyddus i ddarparu ystod o ddolennau i gysylltu â chynnwys gan artistiaid anabl a chwmnïau cynhwysol, fel bod modd i bobl guradu noson o gelf drostynt eu hunain. Os oes gennych – neu os gallech gael – rhywbeth ar-lein ar gyfer fin nos 5 Awst/ yr wythnos honno, cysylltwch â ni er mwyn i ni ei ychwanegu at y rhestr.

(teitl y gwaith, hyd, lleoliad, a mor hir fydd e ar gael, h.y. bydd ar gael drwy’r amser, bydd ar gael ar y noson honno’n unig, pa nodweddion mynediad sydd ganddo, ac ati)