Wythnosau yn unig cyn gêm gyntaf hanesyddol Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro’r Merched UEFA 2025 yn y Swistir, bydd murlun cae pêl-droed o eicon tîm Cymru, Jess Fishlock, yn cael ei ddadorchuddio ym Mharc Pêl-droed y Sblot yn ei dinas enedigol, Caerdydd ar 26 Mehefin. Bydd yr achlysur hwn yn creu hanes gan mai dyma’r murlun cae pêl-droed llawn o bêl-droediwr benywaidd cyntaf yn Ewrop.

Mae'r gwaith celf, a gafodd ei ddylunio gan yr artist o Gymru Regan Gilflin a’i greu gan stiwdio UNIFY Caerdydd, yn talu teyrnged i record anhygoel Jess Fishlock am y nifer fwyaf o gapiau i Gymru a’i gwaith arloesol dros ferched, pobl LGBTQ+, a chymunedau sy'n ailddiffinio pêl-droed fel rhywbeth "i bawb, ym mhobman." Mae hefyd yn ymateb i ymgyrch PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru i wneud pêl-droed yn gynhwysol, a chreu newid amlwg.

'Un Jess. Mil o Freuddwydion.’

Wrth ddathlu’r holl bobl mae Jess Fishlock wedi'u hysbrydoli, cawn ein hatgoffa o hyn: y tu ôl i bob chwaraewr gwych, mae miloedd o rai eraill sy'n gallu gweld eu hunain yn ei stori hi. Yng nghalon y gymuned ar gae lleol yn y Sblot, mae'r murlun yn edrych ymlaen hefyd, gyda'r nod o rymuso arweinwyr y dyfodol a chysylltu cymunedau drwy chwaraeon a diwylliant. 

Meddai Jess Fishlock, cyn gêm gyntaf Cymru yn y Swistir ar ôl clywed am y murlun yn ei dinas enedigol: 

"Mae'n anrhydedd enfawr i gynrychioli Cymru a bod yn rhan o furlun cyntaf o'i fath sy'n dathlu ein hymddangosiad hanesyddol yn yr EWROs yr Haf yma.

"Dw i’n teimlo mor falch o weld y murlun yma fy mro enedigol lle ro’n i’n arfer chwarae fel plentyn; lle sydd wedi chwarae rôl fawr yn fy ngyrfa.

"Dw i’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli bechgyn a merched ifanc i syrthio mewn cariad â'r gêm a mynd ymlaen i gynrychioli’r wlad arbennig yma un dydd, fel y bues i’n ddigon ffodus i wneud."

Y crewyr

Mae’r prosiect wedi cael ei gynllunio a’i arwain gan yr artist o Gymru Regan Gilflin, sy'n adnabyddus am ei gwaith chwedleua gweledol a chymunedol. Mae ei murluniau’n ymdrin â hunaniaeth, diwylliant a chysylltiad, ac yn aml yn tynnu sylw at leisiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae gwaith diweddar Regan yn cynnwys y murlun Ffigyrau Chwedlonnol Jazz Tiger Bay ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, portread o Betty Campbell ar gyfer Hansh S4C, a gwaith ar y cyd gyda sefydliadau fel y BBC a SC Johnson.

Yn ôl y Prif Artist Regan Gilflin:

Mae creu'r murlun yma wedi bod yn daith anhygoel. Dw i’n caru pêl-droed ers pan o’n i'n fach ac mae Jess wedi cael effaith mor enfawr, nid yn unig ar y gêm, ond hefyd yn helpu i wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld a'u gwerthfawrogi. Ro’n i eisiau i'r darn adlewyrchu hynny. Mae'n sôn am welededd, hunaniaeth a pherthyn a dw i mor hapus ‘mod i wedi gallu creu hwn. Pob lwc Cymru!"

Yn gweithio gyda Regan i ddod â'r prosiect yn fyw mae UNIFY, stiwdio greadigol yng Nghaerdydd, sy'n fwyaf adnabyddus am yr ymgyrchoedd Fy Ninas, Fy Nghrys a Fy Nghymru, Fy Nghrys, a’r murlun ingol o Gary Speed. Cafodd UNIFY ei sefydlu gan yr artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson, a’u nod yw creu celf gyhoeddus feiddgar, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn pwysleisio hunaniaeth, gwelededd a chynhwysiant. O brosiectau lleol i waith byd-eang gydag Adidas a WWE, maen nhw'n parhau i ail-siapio sut mae diwylliant a pherthyn yn cael eu gweld mewn gofodau bob dydd

Yn ôl Unify: 

“Mae wedi bod yn fraint dod â hwn yn fyw. Mae Jess Fishlock yn cynrychioli beth sy'n bosib pan fydd rhywun yn llwyddo i godi uwchlaw pob rhwystr, heb anghofio byth o ble maen nhw wedi dod. Fel artistiaid Cymraeg wedi’u geni yng Nghaerdydd, rydyn ni wastad wedi ceisio creu gwaith sy'n siarad â'n cymunedau ni. Mae'r murlun yma’n ymdrin ag etifeddiaeth, balchder a gwelededd – ac mae Jess yn ymgorffori hyn i gyd a mwy."

Gyda'n Gilydd yn Gryfach – Tîm Cymru

Mae'r murlun yn rhan o raglen ddiwylliannol swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y bencampwriaeth. Caiff y rhaglen ei chyflwyno drwy’r dull Tîm Cymru gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Mae Tîm Cymru yn dod â sefydliadau ac unigolion at ei gilydd ledled Cymru i ddweud ein stori wrth y byd. Cafodd y bartneriaeth ei chreu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, ac mae’n dathlu creadigrwydd a gwerthoedd Cymru ar draws chwaraeon, diwylliant, cymunedau, busnes a thu hwnt er mwyn codi ein proffil gartref ac ar lwyfan y byd. Caiff y dull partneriaeth arobryn yma ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru â’i phartneriaid drwy’r brand Cymru Wales.

Ar y cyd, drwy blethu celf i mewn i chwaraeon cyhoeddus ac adlewyrchu gwerthoedd Tîm Cymru o rymuso, rhagoriaeth a chynhwysiant, mae Regan ac UNIFY wedi gweddnewid cae pêl-droed cymunedol i fod yn gynfas pwerus o falchder a phosibilrwydd.

Meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy'n cefnogi'r prosiect:

"Mae’n fraint cael cefnogi prosiect lleol sydd ag apêl fyd-eang sy'n cyfleu’n bwerus beth yw gwerthoedd ac ysbryd tîm Cymru – grymuso, cynhwysiant a phwyslais ar gymunedau. Mae'r murlun yma’n enghraifft feiddgar a hardd o'r hyn sy'n gallu digwydd pan fydd celf, pêl-droed a’r gymuned yn dod at ei gilydd. Mae'n dathlu Jess fel arweinydd a'r tîm cyfan o ferched dawnus, nid yn unig am beth maen nhw wedi'i gyflawni ar y cae ond am y miloedd o ferched ifanc maen nhw'n eu hysbrydoli yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae hefyd yn ychwanegiad cyffrous iawn at y ffordd mae menywod bellach yn hawlio eu lle mewn gofodau cyhoeddus. Mae prosiectau fel hyn yn dangos i'r byd pwy ydyn ni a beth ydyn ni'n ei gynrychioli: cenedl greadigol, groesawgar a chynhwysol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

“Mae’r gwaith celf anhygoel hwn gan Regan Gilflin a Yusuf Ismail a Shawqi Hasson o Unify yn deyrnged bwerus i un o chwaraewyr mwyaf eiconig Cymru erioed. Fel y murlun cyntaf o chwaraewraig bêl-droed benywaidd ar gae yn Ewrop, mae’n garreg filltir o ran gwelededd, perthyn a balchder, ac yn dangos i bob plentyn fod ganddyn nhw le yn y gêm.

Pwrpas ehangach tîm cenedlaethol Cymru yw: ‘Chwarae dros newid. Chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni, Amdanyn Nhw, Amdani Hi’. Mae Jess Fishlock yn byw’r pwrpas hwnnw drwy anrhydeddu’r arloeswyr a fu o’i blaen, ysbrydoli arwyr heddiw a grymuso cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn falch iawn o gydweithio ag UNIFY, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llywodraeth Cymru ac adidas i anrhydeddu etifeddiaeth Jess a hanes tîm Cymru. Mae eu stori ysbrydoledig yn parhau i lunio dyfodol ein gêm.”

Yn ôl Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:

"Mae ein buddsoddiad ni, drwy Gronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru, wedi arwain at y deyrnged gyntaf o'i math yn Ewrop hon. Mae'n dathlu etifeddiaeth anhygoel Jess ac yn anfon neges bwerus i bobl ifanc ledled Cymru – yn enwedig merched a'r gymuned LGBTQ+ – eu bod nhw’n perthyn ar y cae pêl-droed. Fel murlun arloesol, mae'n dangos ymrwymiad diwyro Jess i bêl-droed, ond hefyd i Gymru a helpu i wneud yn siŵr bod eraill yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn chwaraeon.  

"Wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf hanesyddol ym mhencampwriaeth Ewro’r Merched UEFA 2025, bydd y gwaith celf yma’n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent Gymreig i ddilyn yn ôl troed Jess, gan droi cyflawniadau un person yn freuddwyd newydd i lawer."

Dyma Jess. Dyma Regan. Dyma Unify. Dyma Gymru.

Dyma bob llais, ym mhob lliw ar draws cae pêl-droed.

Mae'r prosiect yma wedi'i ariannu gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru.