Wedi’i greu gan Regan Gilflin a’r stiwdio greadigol Unify yng Nghaerdydd, y murlun hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, darn pwerus sy’n anrhydeddu Jess Fishlock a’i heffaith eithriadol ar bêl-droed Cymru.
Wedi’i beintio’n uniongyrchol ar wyneb cae chwarae cyhoeddus, mae’n symbol o gred, gwydnwch, a’r drysau y mae Jess wedi helpu i’w hagor ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Nid teyrnged yn unig yw’r murlun hwn. Mae’n alwad i weithredu. Neges i ferched ifanc ym mhobman i gofleidio’r gêm, camu ar y cael a gwybod bod lle iddyn nhw ym myd pêl-droed.
Mae Regan Gilflin yn adnabyddus am ei gwaith chwedleua gweledol a chymunedol. Mae ei murluniau’n ymdrin â hunaniaeth, diwylliant a chysylltiad, ac yn aml yn tynnu sylw at leisiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae gwaith diweddar Regan yn cynnwys y murlun Ffigyrau Chwedlonnol Jazz Tiger Bay ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, portread o Betty Campbell ar gyfer Hansh S4C, a gwaith ar y cyd gyda sefydliadau fel y BBC a SC Johnson.
Sefydlwyd Unify gan Shawqi Hasson a Yusuf Ismail, dau artists a storiwyr sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio creadigrwydd fel grym ar gyfer cynrychiolaeth, cynhwysiant a balchder cymunedol. Maen nhw fwyaf adnabyddus am yr ymgyrchoedd Fy Ninas, Fy Nghrys a Fy Nghymru, Fy Nghrys, a’r murlun ingol o Gary Speed. O brosiectau lleol i waith byd-eang gydag Adidas a WWE, maen nhw'n parhau i ail-siapio sut mae diwylliant a pherthyn yn cael eu gweld mewn gofodau bob dydd.
Mae'r prosiect yma wedi'i ariannu gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru.
