Yr hydref a’r gaeaf hwn, mae The House of Deviant yn dwyn eu cymysgedd o ddrag, comedi a chythrwfl i dair llwyfan yng Nghymru.

SLAYANCE
Dydd Sadwrn 25 Hydref – 7.30 – Canolfan y Muni, Pontypridd
Mae’r House of Deviant yn creu noson Galan Gaeaf na welwyd ei thebyg. Disgwyliwch glamor ymhlith ysbrydion, a pherfformiadau trawiadol yn y cabaret drag arswydus hwn.
Tocynnau: House of Deviant: SLAYANCE! | Swyddfa Docynnau Awen

SIOE NADOLIG ‘NOT QUITE CHRISTMAS, CHRISTMAS SHOW’ VAGUELY DEVIANT
Dydd Gwener 28 Tachwedd – 8pm – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Bydd House of Deviant a Vaguely Artistic yn cyflwyno noson Nadoligaidd o ganu, disgleirdeb a llawenydd gwahanol – y ffordd berffaith i baratoi at y Nadolig, gyda digonedd o sypreisus ar hyd y ffordd. Gwisgwch eich dillad parti gorau a’ch esgidiau dawnsio, oherwydd yn ôl y sôn, mae gan gorachod Siôn Corn wobrau i bawb ar y rhestr ddrwg neis...
Tocynnau: The Vaguely Deviant Not Quite Christmas, Christmas Show | Canolfan Mileniwm Cymru

DICK TWITTINGTON: SIOE DDRAG NADOLIG FEIDDGAR O CAMP
Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr – 8pm – Theatr Glanyrafon, Casnewydd
Anghofiwch bantomeim i’r teulu - i’r oedolion yn unig mae hwn! Mae’r House of Deviant yn mentro ar stori glasurol Dick Whittington a’i throi yn ddathliad drag budr, ffyrnig a rhyfeddol o Nadoligaidd.
Tocynnau: Dick Twittington: AN OUTRAGEOUSLY CAMP CHRISTMAS ADULT DRAG SHOW
(Oedran 18+)

Am yr House of Deviant
Mae’r House of Deviant yn griw drag ag anabledd dysgu arloesol yng Nghymru, wedi ymroi i feithrin hunan-barch a hunanddibyniaeth ymhlith oedolion ag anabledd dysgu yn Ne Cymru. Trwy berfformiadau drag deinamig, mae’r prosiect cydweithredol hwn yn llwyfan i archwilio a hunan-ddarganfod, yn grymuso unigolion sydd yn aml yn ymgodymu â heriau fel unigrwydd cymdeithasol a diffyg cynrychiolaeth.

Cyswllt y Wasg:
iheartfflamingo@gmail.com