Mae Cerddorfeydd i Bawb yn chwilio am aelodau newydd o’r tîm llesiant i ymuno â’u cronfa o weithwyr llawrydd, a fydd yn gweithio yn nigwyddiadau a chyfnodau preswyl Cerddorfa Genedlaethol i Bawb (NOFA), gan gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol cerddorion NOFA.
Mae’r tîm llesiant yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi aelodau NOFA yn ystod cyrsiau preswyl ac ar-lein. Maent yn cefnogi aelodau yn ystod ymarferion cerddorfaol, gweithgareddau cymdeithasol, amser bwyd, gweithgareddau ar-lein, teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau a mwy.
Sylwch nad oes angen unrhyw allu cerddorol arnoch i wneud cais am y rôl hon.
Ymrwymiad: Bydd tiwtoriaid llesiant yn gweithio ar eu liwt eu hunain ar draws gweithgaredd Cerddorfa Genedlaethol i Bawb, sydd fel arfer yn digwydd yn y gwanwyn, yn ystod gwyliau’r haf ac yn achlysurol, ar benwythnosau yn ystod y tymor (tua 10-14 diwrnod y flwyddyn).
Tâl: £185 y diwrnod, ynghyd â'r holl gostau teithio, llety a chynhaliaeth a ddarperir.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am dydd Llun 27 Tachwedd 2023.