Mewn partneriaeth â Theatr y Pleasance, mae Theatr y Sherman yn cefnogi comedi gerddorol pync newydd sbon, wedi'i gwneud yng Nghymru, y caiff ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni.
Wedi'i ysgrifennu a'i pherfformio gan yr artist amlddisgyblaethol Leila Navabi, mae Relay yn adrodd y stori wir am Leila yn creu babi gartref gyda'i phartner, gyda’i ffrind gorau fel y rhoddwr sberm ac, wrth gwrs, ei gariad yntai yn bloeddio o'r cyrion. Yn cynnwys chwe chân wreiddiol newydd sbon, mae Relay yn datgelu cariad, uchelgais ac anhrefn adeiladu teulu ar eich telerau eich hun.
Mae'r sioe newydd hon yn dilyn ymddangosiad cyntaf Leila yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2024, gyda Composition (“an eye-catching introduction to a comic of promise”, The Guardian) a werthodd bob tocyn. Mae Relay yn rhan o raglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin 2025 Ymddiriedolaeth Theatr y Pleasance, gyda chefnogaeth Theatr y Sherman.
Wrth gyhoeddi’r sioe, dywed Leila, “Rwyf mor falch o fod yn rhannu Relay - dyma’r peth mwyaf personol dwi erioed wedi’i wneud, a hefyd y peth mwyaf hwyl. Mae ganddo chwe chân wreiddiol, keytar, a’r hanes i gyd o’m calon. Mae’n ymwneud ag adeiladu teulu mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn i chi, ac alla i ddim aros i bobl ei gweld.”
Dywedodd Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry: “Mae rhoi llwyfan i artistiaid yng Nghymru fynd â’u gwaith i Ŵyl Ymylol Caeredin yn rhan annatod o’n gwaith o greu llwybrau i bobl greadigol ym mhob cam o’u gyrfaoedd. Rydym wedi meithrin hanes cryf o helpu sioeau newydd arloesol a beiddgar i gymryd y cam pwysig hwn, ac nid yw’r sioe rydym wedi dewis ei chefnogi eleni yn eithriad. Mae cynulleidfaoedd yr Ŵyl Ymylol yn disgwyl gwledd.”
Dywedodd Justin Teddy Cliffe, Cynhyrchydd Creadigol TEAM Collective Cymru: "Rydym mor falch o fod yn cefnogi Leila Navabi i gynhyrchu Relay. Ein sioe gyntaf a gomisiynwyd o'n cyfle datblygu prosiect City Socials, mae esiampl cryf o'r hyn sy'n bosibl pan fydd artistiaid a chwmnïau'n cydweithio â gweledigaeth gyffredin. Mae darganfod sut rydym yn parhau i gefnogi artistiaid i greu gwaith anhygoel yn rhan o'n cenhadaeth gyffredinol, ac mae Relay yn gam pwysig. Mae'n ddarn anhygoel o waith, wedi'i wneud â dilysrwydd, dygnwch, calon ac ethos pync pur, ac mae’n siwr y bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd."
Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Theatr y Sherman gymryd rhan yn rhaglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin. Mae pecyn cymorth y cynnig buddugol yn cynnwys cyllid tuag at gostau cyflwyno sioe yn y Gŵyl Ymylol; cymorth cynhwysfawr ar gyfer y wasg, marchnata a hysbysebu; lle ymarfer a datblygu a chyfres o berfformiadau rhagolwg yn Theatr y Sherman; ynghyd â mentora a chyngor gan Theatrau'r Sherman a Pleasance a chymorth i feithrin perthnasoedd teithiol newydd.
Y llynedd, cefnogodd Sherman Polly & Esther, cabaret drag anhrefnus camp, a ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan y ddeuawd drag eiconig o Gymru, Polly Amorous ac Esther Parade. Yn dilyn ei chyfnod hynod lwyddiannus yng Nghaeredin, perfformiwyd y sioe yng Ngŵyl Ymylol Adelaide rhwng Chwefror a Mawrth 2025.
Yn 2023, cefnogodd y Sherman CHOO CHOO! (Or… Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have)). Aeth y sioe - cipolwg gwirion a swrrealaidd ar anhwylder obsesiynol-gymhellol - ymlaen i ennill Gwobr Fringe First a Gwobr Fringe Sefydliad Iechyd Meddwl 2023. Yna fe'i perfformiwyd yng Nghanolfan Southbank, fel rhan o ŵyl Unlimited 2024 y Ganolfan.
Yn 2022, gyda chefnogaeth The Other Room, cefnogodd y Sherman An Audience With Milly-Liu gan difficult|stage. Roedd sioe drag un-dyn François Pandolfo yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, gan ennill y Wobr Dalent Newydd David Johnson gyntaf erioed.
Fel o'r blaen, mae Theatr y Sherman yn ymuno â rhestr nodedig o theatrau gan gynnwys Leicester Curve, Theatre Royal Plymouth, Theatr Gŵyl Pitlochry a The Lyric Belfast, sydd i gyd yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Genedlaethol Caeredin y Pleasance. Mae'r fenter yn gweld y Pleasance yn gweithio gyda theatrau partner ledled y DU i nodi a chefnogi artistiaid a chwmnïau eithriadol sy'n lleol iddynt sydd eisiau mynd â gwaith i'r Ŵyl Ymylol. Mae pob partner yn dŷ cynhyrchu cenedlaethol blaenllaw, gydag ymrwymiad i gefnogi a datblygu artistiaid newydd.