Yn sgil grant hael gan Gronfa Gymunedol y Co-op i greu pecynnau chwarae creadigol i blant sy’n byw yn y cyffiniau, gallodd Theatr Iolo greu a rhannu dau gant o becynnau yn cynnwys deunyddiau crefft wedi’u llunio i blant pump hyd at ddeuddeg oed, i deuluoedd na fuasai fel arall yn gallu’u fforddio.

Creodd y cwmni, sydd â’i ganolfan yng Nghaerdydd, becynnau a chanddynt yn thema eu Prosiect Dramodwyr Ifanc blynyddol sy’n symbylu pobl ifanc o Gymru i gynnig syniad at ddrama newydd. Roedd y pecynnau’n cynnwys deunyddiau sgrifennu, sisyrnau, glud, paentiau a phinnau sgrifennu yn ogystal â llond gwlad o syniadau ac adnoddau i ysbrydoli’r plant sy’n eu cael. Wedyn rhannwyd y pecynnau i deuluoedd drwy Gymdeithas Tai Taf sydd piau ac sy’n rheoli dros fil pum cant o dai ledled Caerdydd.  

“Mae creadigedd a chwarae’n hanfodol i blant i gael ganddyn nhw feithrin medrau newydd a defnyddio’u dychymyg yn ogystal ag i roi iddyn nhw ffyrdd newydd o chwilio’r byd o’u cwmpas.  Ond y ffaith amdani ydi bod llawer o deuluoedd yn methu fforddio gwario arian ar nwyddau crefft megis sisyrnau a glud. Mae’r grant gan y Co-op wedi rhoi lle i ni gyrraedd cannoedd o deuluoedd yng Nghaerdydd ac wedi rhoi hwb i galonnau’r rheini gafodd y pecynnau chwarae.”

Sarah Gilbert, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Theatr Iolo

“A’r argyfwng costau byw sydd ohoni wedi rhoi pwysau digynsail ar gyllidebau teuluoedd, roeddem wrth ein boddau o gael y pecynnau chwarae i’n staff rheng flaen gael eu rhannu i blant mewn cyni sy’n byw yn ein cartrefi. Bu’r pecynnau’n bleser pur, yn llawn deunyddiau creadigol a chanllaw rhyngweithiol ar sut i sgrifennu eu dramâu eu hunain gan ddefnyddio eu dychymyg. Trista’r sôn, yn aml ychydig neu ddim sydd ar ôl yn y gyllideb i brynu deunyddiau celf a chrefft felly cafodd y pecynnau hyn groeso mawr!”

Clare Dickinson, Rheolwr Cynhwysiad Cymunedol, Cymdeithas Tai Taf

Mae Theatr Iolo yn creu ac yn rhannu Pecynnau Chwarae Creadigol ers 2020. Ers dechrau’r prosiect, rhannodd y cwmni gyfanswm o wyth cant a hanner o focsys, gyda gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau plant ledled Caerdydd.