Yn 2022 fe osododd Theatr Iolo, y cwmni theatr plant sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, y targed uchelgeisiol am y tro cyntaf o gyflawni Safon Sylfaenol Llyfr Gwyrdd y Theatr ar gyfer creu cynyrchiadau theatr mwy cynaliadwy. Mae'r cynllun yn annog cwmnïau theatr i sicrhau bod 50% o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth wneud cynhyrchiad yn dod o ffynonellau wedi'u hailddefnyddio neu eu hailgylchu, gydag o leiaf 65% o'r deunyddiau i gael bywyd pellach ar ôl y sioe. Dair blynedd i mewn i'r cynllun, ac maent bellach wedi cyflawni'r Safon Ganolradd ac Uwch.
Ym mis Mawrth 2025, fe ail-osododd Theatr Iolo eu sioe Tidy, cyd-gynhyrchiad gyda Polka Theatre, yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant gan yr awdur a'r darlunydd, Emily Gravett. Perfformiwyd Tidy mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr, ochr yn ochr â Taclus, fersiwn Gymraeg o'r ddrama. Trwy ganfod deunyddiau'n ofalus, fe lwyddodd tîm dylunio a chynhyrchu Tidy | Taclus sicrhau bod 97% o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wedi’u defnyddio’n flaenorol. Ar ben hynny, mae 100% o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd wedi mynd ymlaen i gael bywyd y tu hwnt i’r cynhyrchiad. Diolch i’r canrannau hyn, fe gyflawnodd y cynhyrchiad Safon Uwch Llyfr Gwyrdd y Theatr.
Yn dilyn llwyddiant Tidy | Taclus, aeth Theatr Iolo ymlaen i deithio’u sioe i fabanod 6-18 mis oed, a grëwyd gyntaf gan Sarah Argent a Kevin Lewis yn 2020. Bum mlynedd yn ddiweddarach ac fe lwyddodd y tîm cynhyrchu ar gyfer Baby, Bird & Bee | Babi, Aderyn a'r Wenynen, i sicrhau bod gan 68% o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sioe fywyd blaenorol, tra bod 100% o'r deunyddiau bellach wedi mynd ymlaen i gael eu defnyddio eto. Diolch i’r canrannau hyn, fe gyflawnodd y cynhyrchiad Safon Canolradd Llyfr Gwyrdd y Theatr.
“Mae’n hynod bwysig i ni sicrhau bod ein cynyrchiadau yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, a rhannu hyn gyda’n cynulleidfaoedd ifanc. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i olrhain y broses o greu ein sioeau a sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau cynaliadwy wrth greu gwaith newydd, ac yn ystyried defnydd y gwisgoedd, setiau a phropiau yn y dyfodol.” Michelle Perez, Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae Theatr Iolo wedi ymrwymo i gyflawni o leiaf y Safon Sylfaenol wrth greu pob sioe newydd, ac o leiaf y Safon Ganolradd wrth ail-osod sioe. Er mwyn darllen mwy am Adduned Amgylcheddol Theatr Iolo, ewch i theatriolo.com/environmental-pledge. I ddarganfod mwy am fenter Llyfr Gwyrdd y Theatr, ewch i theatregreenbook.com.