Bydd cwmni theatr dawns cynhwysol proffesiynol mwyaf newydd Cymru, Humans Move, yn cyflwyno eu stori ddawns gorfforol rymus ac emosiynol, Let Life Dance ar draws Cymru'r mis Mehefin hwn.
Mae Let Life Dance yn cyfleu uchelfannau ac isel fannau taith gyfoethog bywyd, y troadau a’r troelli, ymyrraeth a llanast, a byddant yn anelu i Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (18 ac 19 Mehefin); Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd (21 Mehefin); Theatr Torch, Aberdaugleddau (24 Mehefin) a Glanyrafon, Casnewydd (28 Mehefin)
Disgwyliwch berfformiadau pwerus gan gast o ddawnswyr ag anabledd a heb anabledd sy’n llawn o gydymdeimlad â’n profiad dynol.
Mae’r sioe yn edrych ar brofiadau bywyd unigol a’n profiadau ar y cyd. Trwy symudiadau, bydd y dawnswyr yn rhannu troadau, uchelfannau ac isel fannau, ymyrraeth a llawenydd sydd mewn bywyd. Mae’r dawnswyr yn archwilio’r profiad o golli cysylltiad â theulu a ffrindiau, a rhwydweithiau cefnogi, mynd trwy drafferthion personol wrth geisio bod yn un o’r criw a methu cysylltu â grŵp a theimlo’n gartrefol. Mae’r dawnswyr yn dysgu ei gilydd sut i ailgysylltu, yn dod yn rhwydwaith o gefnogaeth a derbyn gwahaniaethau ei gilydd. Maent yn mynd trwy gyfnodau o rwystredigaeth, anhawster, llawenydd pur a chysylltiad.
Mae Humans Move yn sefydliad dan arweiniad pobl anabl sy’n ymuno gyda phobl sy’n ymladd dros newid a dyfodol mwy cynhwysol a heddychlon.
Cyfarwyddwr Artistig Humans Move a Chyfarwyddwr Let Life Dance, yw’r coreograffydd amlwg Jessie Brett, y mae ei gwaith wedi ei berfformio yng Ngŵyl Undod Hijinx ac mae hefyd wedi gweithio’n rhyngwladol, gan ddatblygu ei hymarfer cynhwysol yn Ethiopia gyda’r Cwmni Dawns Adunya, Meseret Yirga a Chwmni Dawns Destino.
Sefydlodd Jessie Humans Move yn 2021 a dywedodd,
“Sefydlais Humans Move gan fy mod yn credu bod angen i ddawns gyda chast o ddawnswyr anabl a heb anabledd gael lle yng Nghymru i ffynnu a thyfu.” Jessie Brett, Cyfarwyddwr Humans Move.
Cefnogwyd Let Life Dance gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Teulu Laura Ashley, a bu’n cael ei datblygu ers 2023. Mae arddull chwedleua corfforol Jessie yn cyfleu harddwch a phrysurdeb yn y darn newydd hwn.
Dywedodd Jessie, “Mae Let Life Dance yn archwilio profiadau bywyd personol – llawenydd ac egni cariad a bywyd, ond hefyd rhai o’r heriau yr ydym yn eu hwynebu weithiau, sy’n mynd o ffordd y llif hwnnw fel peidio bod yn un o’r criw, mynd i anawsterau, colli cysylltiad a theimlo’n gaeth.
Mae’n archwilio beth sy’n digwydd pan fyddwn yn ildio i lif bywyd ac yn cael y gefnogaeth y mae arnom ei hangen i ffynnu a sut y mae arnom angen pentref i’n cefnogi trwy rai o’r cyfnodau heriol yma.”
Mae Let Life Dance yn cynnwys cast o bump o ddawnswyr anabl a heb anabledd gan gynnwys y dawnsiwr â Syndrom Down Justin Melluish (Hijinx ac ‘Into the Light’ Frantic Assembly ac yn fwy diweddar drama S4C/ BBC Cymru Hidden/Craith), Giverney Hâf Blomeley (Henry House peilot teledu Rocking Horse Media, Cwmni Open yn Theatr Clwyd, a The Crucible Cwmni Theatr Phoenix); Laura Moy (Nofit State, National Theatre Wales a Pirates of the Carabina); Adi Detamo (Frantic Assembly, Theatre-Rites, a Breaking Convention) ac Indigo Tartan (How Shall We Begin Again Jo Fong, Fabulous Animals Zosia Jo ac yn fwy diweddar AFON (Deep Listening) gyda Maynard Abercych)
Cysylltwch â thaith y cast wrth iddyn nhw ganfod eu ffordd trwy ddyfroedd heriol bywyd o droadau, troelliadau, ymyraethau ac anhrefn wrth iddyn nhw ddarganfod sut i gysylltu yn ôl â hwy eu hunain, ei gilydd ac ildio i ddawns gyffrous bywyd.
Mwynhewch ddawns gyffrous bywyd a fydd yn tanio chwilfrydedd, cydymdeimlad a gweithredu.
Am ragor o wybodaeth ewch i: