Swyddog Prosiect Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru
Lleoliad gwaith: Gweithio o bell ar draws cymunedau Gogledd Ddwyrain Cymru
Math o Gytundeb: Rhan-amser, cyfnod penodol o 13 Ionawr 2025 tan 31 Awst 2025 (3 neu 4 diwrnod yr wythnos / hefyd yn agored i rannu swydd)
Cyflog llawn amser: £27,190 - £31,385 
Dyddiad Cau: 11.00 o’r gloch, 3ydd Rhagfyr 2024

Ynglŷn â’r Rôl
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn chwilio am Swyddog Prosiect Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru i ymuno â’n tîm a gweithio gyda chymunedau lleol ar brosiect digidol newydd.

Yn y rôl ran-amser hon, byddwch yn defnyddio ffilm o'n casgliad darlledu i rannu straeon amrywiol gyda chymunedau. Mae Archif Ddarlledu Cymru yn gasgliad mawr o raglenni teledu a radio o Gymru o'r 100 mlynedd diwethaf.

Gan weithio gyda thîm Archif Ddarlledu Cymru, byddwch yn creu prosiect cymunedol a fydd yn cael ei ddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Cyfrifoldebau Allweddol
• Gweithio'n agos gyda chymunedau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i archwilio'r casgliad darlledu, datgelu straeon, a chyd-greu prosiect sy'n adlewyrchu treftadaeth a phrofiadau cymunedol.
• Gweithio gyda’r Rheolwr Gweithgareddau Cymunedol a staff eraill LlGC i greu a chyflawni prosiect sy’n dod â chynnwys y casgliad darlledu yn fyw mewn ffordd ddifyr, hygyrch a chynhwysol.
• Cynorthwyo i gynllunio a threfnu digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2025.

Am bwy rydyn ni'n chwilio?
Rydyn ni yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig ynglŷn â gweithio gyda chymunedau a chreu prosiectau newydd, ac sy’n gwerthfawrogi profiad byw, angerdd, ac ymrwymiad i gynhwysiant yn ein gwaith.

Sgiliau a Rhinweddau Dymunol
• Cyfeillgar a hawddgar, gyda sgiliau cyfathrebu da
• Diddordeb mewn cymunedau a'r celfyddydau
• Profiad o adrodd straeon digidol a chyfryngau cymdeithasol
• Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
• Bydd peth teithio ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru a gall y Llyfrgell gefnogi hyn

Beth fyddwch chi'n ei gael?
• Ennill profiad uniongyrchol mewn gwaith ymgysylltu cymunedol
• Cefnogaeth barhaus ar gyfer eich datblygiad proffesiynol
• Hyblygrwydd o ran lleoliad ac oriau sydd yn gweddu orau i'ch anghenion

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel byddar ac anabl, cefndir economaidd-gymdeithasol is, LHDTC+, a niwroamrywiol.

Sut i wneud cais
Anfonwch lythyr (dim mwy na 2 ochr A4) yn amlinellu eich diddordeb yn y rôl ac unrhyw brofiad perthnasol i swyddi@llgc.org.uk dim hwyrach na 11.00 o’r gloch, 3ydd Rhagfyr 2024 ynghyd a’r ffurflenni atodol:

Archwilio Cefndir

Monitro Cydraddoldeb

I drafod y rôl cyn ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â Ffion Morris (Rheolwr Gweithgareddau Cymunedol) ar Ffion.morris@llyfrgell.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol.
 

Dyddiad cau: 03/12/2024