Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu creadigol i'n helpu i godi ein proffil, hybu ymgysylltiad gyda chynulleidfaoedd, ac i rannu ein stori ar draws nifer o lwyfannau. 

21 awr yr wythnos

£25,500-£27,000 pro rata

36 diwrnod gan gynnwys Gwyliau Banc PA [pro rata]

Contract 12 mis

Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn gyffrous i gyflwyno rôl Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Rydym yn edrych am unigolyn hyblyg, sydd â phrofiad o weithio o fewn y maes theatr neu debyg. 

Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn ymdrin â marchnata Taking Flight a phopeth cysylltiedig o ddydd i ddydd. 

Cwmni theatr bychan ydym yng Nghaerdydd, sy’n cynghori eraill ynghylch sicrhau mynediad rhwydd a chynhwysol i theatrau, gan weithio at ennill cynrychiolaeth gyfartal yn y theatr i bobl Fyddar ac anabl.

Mae Taking Flight yn gyflogwr cynhwysol ac rydym yn annog ymgeiswyr o gymunedau ymylol yn weithredol.

Os oes gennych ddiddordeb, ac os hoffech ddysgu mwy am y swydd uchod, yna lawr lwythwch y swydd ddisgrifiad.

I wneud cais:

Gallwch anfon eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam y byddech chi'n ddelfrydol ar gyfer y swydd i admin@takingflighttheatre.co.uk

Gallwch hefyd anfon fideo o'ch llythyr eglurhaol a'ch CV atom yn y Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain. Danfonwch fideos i 07593821172.

Dyle’ch llythyr eglurhaol fod tua dwy ochr A4.

Dyddiad Cau:

Dydd Llun, Hydref 13ed, 5yp.
 

Dyddiad cau: 13/10/2025