Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd C: Cyflog cychwynnol o £29,335
Lleoliad: Fel arfer lleoli’r rôl hon yn swyddfa Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd. Rydym yn gweithio o gartref ar hyn o bryd.
Am y Swyddog Dylunio a Chyhoeddiadau
Mae'r Swyddog Dylunio a Chyhoeddiadau'n sicrhau bod holl wybodaeth print ac electronig Cyngor y Celfyddydau'n cael ei dylunio a'i chyhoeddi i'r safonau uchaf a mor hygyrch â phosib i gynifer o bobl â phosib.
Fel sefydliad creadigol sydd am gyflwyno delwedd deniadol, gwahanol a hygyrch, mae'r Swyddog Dylunio a Chyhoeddiadau'n sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith dylunio, argraffu a hyrwyddo'n adlewyrchu ac yn cyfoethogi gwerthoedd Cyngor y Celfyddydau.
Mae'r Swyddog Dylunio a Chyhoeddiadau yn amddiffyn eglurder a chysondeb brand a hunaniaeth Cyngor y Celfyddydau, yn fewnol ac yn allanol, gan ddatblygu'r polisi brandio ymhellach. Mae'r gwasanaethau y mae'r Swyddog yn eu rheoli'n ymestyn i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Noson Allan, y Cynllun Casglu a phrosiectau allweddol eraill fel y bo'n briodol.
Amdanoch chi
Mae gennych chi dealltwriaeth arbenigol am egwyddorion gosod, teipograffeg a dylunio golygyddol. Mae hefyd gennych chi gwybodaeth a profiad blaenorol o ddatblygu polisi brandio, hunaniaeth weledol a phwysigrwydd dyluniad clir yn cynnwys cynhyrchu dogfennau PDF hygyrch. Rydych yn greadigol, gyda’r dawn i ddyfeisio dyluniadau arloesol a thrawiadol. Mae gwybodaeth arbenigol am becynnau fel Adobe InDesign, Illustrator, Photoshop a phecyn offer Acrobat Pro Accessibility yn hanfodol am y rôl hon.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfle Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech gyflwyno’ch cais mewn fformat gwahanol e.e. fideo neu nodyn llais, cysylltwch a ni o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Oherwydd gofynion rôl y swydd wag hon, mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) hyd at o leiaf Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y rôl. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Llun 14 Mawrth 2022
Cyfweliadau (dros fideo): Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.