Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliant i ymuno â'r tîm yn Theatrau Sir Gâr.
Byddwch yn aelod allweddol o dîm rheoli'r Theatr ac yn cefnogi'r allbwn artistig a datblygu cynulleidfa ar gyfer y gwasanaeth. Byddwch yn gwneud hyn drwy weithio gydag unigolion a sefydliadau creadigol ar gyd-gynyrchiadau, cydlynu prosiectau allgymorth ynghlwm wrth raglen y theatrau, a dyfeisio prosiectau i helpu i gynyddu mynediad i'r celfyddydau perfformio a helpu i wella lles ein cymunedau.
Yn ddelfrydol bydd gennych y sgiliau i gyfathrebu a gweithio gydag ystod eang o bobl; gwybodaeth am y celfyddydau, amrywiaeth a chynhwysiant, a'r sector cymunedol/gwirfoddol; a pheth profiad blaenorol o weithio ar brosiectau neu raglenni celfyddydol.
Mae ein gwasanaeth yn rhan o'r gwasanaeth Diwylliant a Hamdden o fewn adran Cymunedau y Cyngor. Mae gan Sir Gaerfyrddin ddiwylliant cyfoethog ac mae'n ffodus i gael portffolio o leoliadau rhagorol gan gynnwys: Y Ffwrnes, lleoliad celfyddydau perfformio blaenllaw'r sir a agorodd yn 2013 gyda buddsoddiad o £15 miliwn yng nghanol Llanelli; y Lyric, adeilad rhestredig Gradd II wedi'i leoli yn chwarter diwylliannol Caerfyrddin; ac Y Glowyr, hen neuadd les glowyr yn Rhydaman sydd bellach yn theatr fach.
Mae'r swydd yn un cyfnod penodol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2027, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn unol ag ymestyn cyllid grant.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Sharon Casey drwy e-bostio SECasey@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01554 744 477
Lefel DBS: Bydd gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin, Theatrau Sir Gâr.
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 31 Mawrth 2027
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd H
Cyflog: £33,024 - £37,336
Cyfradd yr awr: £17.11 - £19.35
Oriau Contract: 37