Rydym yn chwilio am Swyddog Cysylltu â’r Diwydiant i ymuno â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfarwyddwr neu’n asiant castio yn Llundain, gyda phrofiad sylweddol o weithio yn y diwydiant ar y lefel uchaf.
Mae’r Coleg yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau bywyd. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr, ac addysgu rhagorol a chysylltiadau annhebyg yn y diwydiant, yn dod ynghyd er mwyn gwireddu breuddwydion. Mae uchelgeisiau creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn ymgolli mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae’r Coleg yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’n rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’r Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru sydd ganddo, a bydd y Coleg yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Mae hon yn swydd barhaol rhan amser, yn gweithio 7.5 awr yr wythnos, ar gytundeb ffracsiynol 0.2. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Jonathan Munby (Jonathan.munby@rwcmd.ac.uk).