Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol Dwyieithog i fod yn gyfrifol am gynnal sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol WNO er mwyn cefnogi ymgyrchoedd marchnata a chodi ymwybyddiaeth o ystod lawn rhaglen WNO gyda negeseuon effeithiol a chyson. Bydd y Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol hefyd yn cefnogi’r tîm marchnata i sicrhau bod copi marchnata WNO yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Cefnogi Pennaeth Marchnata a Digidol drwy ymgymryd â dull darparu cyfryngau cymdeithasol WNO a ysgogir gan ddata ac a arweinir gan dystiolaeth.
  • Cynllunio a gweithredu calendr cyfryngau cymdeithasol dwyieithog wythnosol sy’n arddangos ehangder ein gwaith i gefnogi ymgyrchoedd marchnata a chynlluniau cyfathrebu brand, ac yn cynnwys curadu, prawf-ddarllen a threfnu postiadau ar draws holl sianeli WNO.
  • Cynnal tôn llais eglur a chyson, ond sydd hefyd yn hyblyg, ar gyfer WNO ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol, gan wneud y mwyaf ohono, yn unol â gofynion llwyfannau a chynulleidfaoedd targed.
  • Adnabod tueddiadau sy’n dod i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau a fyddai’n cyflawni anghenion datblygu cynulleidfa WNO er mwyn cyrraedd cynulleidfa amrywiol.
  • Ymchwilio ac ysgrifennu golygiad dwyieithog difyr ar gyfer sianeli ar-lein WNO gan gynnwys blogiau, e-byst, cynnwys gwefan ac ymgyrchoedd digidol taledig.
  • Arwain datblygiad a gweithrediad e-bost ymgyrchoedd e-lythyr ac e-bost uniongyrchol WNO, gan gynnwys ysgrifennu copi, prawf-ddarllen, adeiladu a thynnu data a, defnyddio technegau fel awtomeiddio. Cynnal profion A/B yn barhaus i wneud y gorau o fformat a chynnwys.
  • Goruchwylio holl addasiadau gwefan wno.org.uk a sicrhau ei bod yn cyflwyno gwybodaeth gywir bob amser ac yn dilyn y rheolau SEO sylfaenol.
  • Cynhyrchu a phrawf-ddarllen fersiynau Cymraeg o gopi marchnata creadigol, gan weithio’n agos gyda chyfieithwyr allanol yn ôl yr angen.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Hanfodol

·Lefel uchel o lythrennedd a rhifedd, gyda sylw rhagorol i fanylion
·Ysgrifennwr a siaradwr Cymraeg rhugl
·Dealltwriaeth gadarn o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac arferion gorau, gyda'r gallu i
·ddysgu am gymwysiadau newydd yn gyflym
·Profiad o ddefnyddio systemau CRM
·Gallu gweithio mewn tîm ond yn hyderus i ddefnyddio menter a gweithio ar ei liwt ei hun lle bo hynny’n briodol
·Trefnus gyda'r gallu i flaenoriaethu a bodloni terfynau amser mewn awyrgylch gwaith prysur
·Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
·Sgiliau ysgrifennu copi rhagorol
·Gallu ymateb yn greadigol ac yn broffesiynol o dan bwysau
Dymunol
  • Profiad o farchnata opera/cerddoriaeth glasurol/y celfyddydau
  • Gwybodaeth am Wordfly, Canva a Buffer neu offer digidol tebyg arall
     
Dyddiad cau: 10/02/2025