Cytundeb penodol 12 mis, swydd llawn amser (37 awr yr wythnos) 

I ddechrau cyn gynted â phosib 

Cyflog: £27,000 pro rata 

Dyddiad Cau: 10 Medi 2025, hanner dydd   

Cyfweliadau*: 18/19 Medi 2025 

Lleoliad: Rydym yn dîm cydweithredol sy’n gweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ond mae'r gallu i fynychu un o'r swyddfeydd yn aml yn hanfodol i'r rôl hon.  

*Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol, sy'n ymroddedig i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn cymryd camau cadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n bodloni ​gofynion addasrwydd y rôl ac sy’n nodi yn eu cais eu bod yn cael eu tangynrychioli o fewn y sector llenyddol. 

I ddarganfod mwy am weithio i Llenyddiaeth Cymru cliciwch ar y dolenni isod:  

Am Llenyddiaeth Cymru: https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni-llc/  

Gyrfaoedd a buddion staff: https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni-llc/gyrfaoeddachyfleoedd/  

Ein Polisi Recriwtio: https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni-llc/gyrfaoeddachyfleoedd/ein-polisi-recriwtio/  

Ein Haddewid: https://www.llenyddiaethcymru.org/cynllun-strategol-hafan/cynllun-strategol-prif-dudalen/sp2022-25-our-values-and-delivery-principles/ein-haddewid/  

 

Am Rôl Cydlynydd Gweithrediadau 

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm deinamig, ymroddedig a chreadigol i gefnogi â chyflawni gweithrediadau, prosiectau a rhaglen ehangach Llenyddiaeth Cymru, sy'n anelu at greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. 

Mae rôl y Cydlynydd Gweithrediadau yn ganolog i weinyddu a chyflawni Gwobr Llyfr y Flwyddyn, gan arwain ar reoli'r broses gyflwyno ceisiadau, cefnogi a chynghori cyhoeddwyr ac awduron ar gymhwysedd, yn ogystal â chefnogi’r paneli beirniadu gyda'r broses ystyried a phenderfynu. 

Mae'r Cydlynydd Gweithrediadau hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm Effaith ac yn cefnogi ar lunio Adroddiadau Sefydliadol chwarterol a Blynyddol i’n harianwyr a’n Bwrdd Rheoli. Mae'r rôl hon hefyd yn arwain ar reoli ein System CRM (Beacon) gan gynnwys gweithredu prosesau a hyfforddi'r tîm ehangach. 

Mae’r Cydlynydd Gweithrediadau yn cydweithio'n agos â'r Cyfarwyddwr Gweithredol, y Rheolwr Gweithrediadau a'r tîm cyflawni ehangach i sicrhau bod ein rhaglenni'n effeithlon ac yn gynaliadwy. Mae'r rôl hon yn gyfrifol am arwain ar fonitro ein heffaith yn unol â'r Strategaeth Gynaladwyedd a gwneud argymhellion i wella systemau a phrosesau mewn modd amgylcheddol gyfrifol. 

Meysydd darparu allweddol 

  • Bod yn rhan o dîm Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru; arwain ar sefydlu paneli beirniadu ar gyfer gwobr 2026 a'u cefnogi drwy gydol y broses; cydlynu'r broses gyflwyno gan gynnwys adolygu a chreu pecynnau cyflwyno; cynnal cyfarfodydd gyda'r tîm ehangach i drafod cymhwysedd a chyfarfod â beirniaid yn unol â’r amserlen; yn ogystal â chefnogi gyda gwireddu’r seremoni.
  • Cyfrannu at waith y tîm effaith gan gynnwys datblygu ac arwain ar gwblhau Adroddiadau Chwarterol ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, cefnogi gyda datblygiad yr Adroddiad Blynyddol a chydweithio â chydweithwyr i adrodd i Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gasglu data ac adrodd ar dargedau'r tîm ehangach.
  • Arwain ar weithredu a chynnal a chadw'r system CRM (Beacon), cefnogi staff gyda sesiynau hyfforddi a pharatoi galwadau agored ar gyfer rhaglenni, yn benodol y rhai sy'n Gymraeg neu'n ddwyieithog.
  • Casglu data gan ein cynulleidfaoedd a'n cleientiaid, gan gynnwys cydlynu Holiadur Rhanddeiliaid blynyddol ac adolygu ac adrodd ar Ffioedd Awduron i sicrhau ein bod yn talu'n deg, yn unol â'n Haddewid.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o'n Canllawiau Ffioedd Awduron ac annog awduron i eirioli dros gyflog teg trwy sgyrsiau uniongyrchol.
  • Cynnal gwefan Gwlad y Chwedlau, siop ar-lein Llenyddiaeth Cymru a stoc a gadwir yn ein swyddfeydd.
  • Monitro targedau y Strategaeth Cynaladwyedd, gwahodd cydweithwyr o'r tîm staff i gyfrannu at y gwaith hwn yn ogystal ag arbenigedd gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
  • Monitro ein heffaith amgylcheddol fel sefydliad a chefnogi cydweithwyr i weithredu ar dargedau a gwelliannau drwy hyrwyddo manteision arferion cynaliadwy. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cynnwys cynnal adolygiadau mewnol (drwy Survey Monkey) a hyrwyddo cynigion i staff fel Beicio i'r Gwaith a’n Cynllun Gwirfoddoli.
  • Gwaith cyfieithu, prawf ddarllen ac ysgrifennu copi achlysurol.
  • Ymdrin ag ymholiadau gan ein cynulleidfaoedd dros y ffôn ac ar e-bost.
  • Unrhyw dasgau eraill, yn ôl yr angen. 

Yn adrodd i: Rheolwr Gweithrediadau 


Addasrwydd ar gyfer y rôl  

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:  

  • Diddordeb mewn llenyddiaeth, a grym y celfyddydau i fynd i'r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol. 
  • Profiad o weinyddu.
  • Profiad o fonitro, casglu a dadansoddi data.
  • Sgiliau cyfathrebu clir, sensitif a chadarnhaol yn y Gymraeg a Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Gwybodaeth digidol ymarferol a hyder i ddefnyddio systemau fel SurveyMonkey, Zoom a Microsoft Office (neu debyg). 
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau CRM neu debyg (e.e. Beacon).
  • Diddordeb ac ymrwymiad i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd.
  • Y gallu i amldasgio, i weithio'n dda dan bwysau, ac i flaenoriaethu cyfrifoldebau. 
  • Y gallu i feddwl yn greadigol, datrys problemau a bod yn drefnus. 
  • Y gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel. 

 
Sgiliau dymunol: 

  • Profiad o ddatblygu polisïau.
  • Profiad o weithredu systemau a phrosesau mewn amgylchedd gwaith. 

Bydd unrhyw gynigion swydd yn cael eu gwneud yn amodol ar wiriad DBS priodol.  

 
Sut i ymgeisio  

  1. Darllenwch y disgrifiad swydd uchod a'r rhestr addasrwydd yn ofalus. Hefyd, darllenwch Gynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-27 ac edrychwch ar adrannau ein gwefan.  
  2. Ysgrifennwch lythyr cais* neu greu cais fideo* yn esbonio pam eich bod â diddordeb yn y rôl, a sut yr ydych yn addas ar ei chyfer (e.e., soniwch am eich profiadau, a pha elfennau penodol sy’n eich diddori am y swydd). Bydd ceisiadau ysgrifenedig a cheisiadau fideo yn cael eu hasesu yn gyfartal.  
      
    *Uchafswm o 2 dudalen A4, neu fideo 5-munud. 
  3. Anfonwch y canlynol at post@llenyddiaethcymru.org erbyn dydd Mercher 10 Medi, hanner dydd:
  • Eich llythyr cais neu fideo; 
  • Eich CV, manylion dau ganolwr sy'n eich adnabod mewn cyd-destun proffesiynol. Byddwn ond yn cysylltu â chanolwyr ar ôl i gynnig o gyflogaeth gael ei dderbyn;
  • Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru wedi'i chwblhau: https://www.surveymonkey.com/r/2QJXSMH  

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?      

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad digidol ar 18 neu 19 Medi 2025. Byddwn yn cadarnhau o flaen llaw pwy fydd ar y panel cyfweld yn cynrychioli tîm Llenyddiaeth Cymru.   

Er mai cyfweliad ffurfiol fydd hwn, gyda thasg gweinyddol i ddilyn, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn gyfforddus â'r broses gyfweld. Os fydd y broses yn achosi unrhyw bryder i chi, rhowch wybod i ni o flaen llaw a gallwn drefnu cyfarfod anffurfiol neu sgwrs dros y ffôn/fideo cyn y cyfweliad gydag Alys Lewin, Rheolwr Gweithrediadau.  

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y rôl o flaen llaw, neu i ofyn am ragor o wybodaeth. I siarad ag Alys yn uniongyrchol neu i drefnu galwad yn ôl, anfonwch e-bost ati i alys@llenyddiaethcymru.org. Byddwn yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr gyda chanlyniad y cyfweliadau erbyn 24 Medi 2025. 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig (1146560) sy’n gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.  

 

Dyddiad cau: 10/09/2025