Gwerth y contract:                       hyd at £60,000         

Hyd yr ymgynghoriaeth:             cwblhau erbyn mis Ionawr 2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Gorffennaf 2024

Mae Cyngor Abertawe'n chwilio am asiantaeth gymwys i ddatblygu fframwaith ymgynghori a pholisi gyda Gwasanaethau Diwylliannol y Cyngor er mwyn penderfynu ar gynllun datblygu strategaeth ar gyfer cynnig ddiwylliannol y ddinas a'r sir. Dylai’r strategaeth adlewyrchu hunaniaeth ddiwylliannol y rhanbarth, a defnyddio'i allu i gynnal a chreu cyfleoedd er mwyn rhoi hwb i'r celfyddydau, diwylliant a’r economi greadigol, digwyddiadau arbennig, twristiaeth cyrchfannau a marchnata, chwaraeon, lles a hamdden, ynghyd â chyfleoedd dysgu a chydlyniant cymunedol y ceir mynediad atynt drwy ein llyfrgelloedd a’n hybiau cymunedol cysylltiedig, amgueddfeydd, archifau a chynlluniau treftadaeth.

Gwybodaeth gefndir

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi dechrau ar waith i ddatblygu strategaeth diwylliannol ar gyfer y ddinas gyfan gan gynnal ymgynghoriad er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar draws y portffolio, partneriaethau ac effeithiau.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn ochr yn ochr â'n hymrwymiadau i raglen beilot Ewropeaidd Dinasoedd Unedig a llywodraeth leol Culture21, ac arweiniodd y gwaith cyfunol at lunio 'fframwaith diwylliannol' ar gyfer yr ardal, addewid amrywiaeth a chais dilynol Abertawe ar gyfer statws Dinas Diwylliant y DU (cyrhaeddodd Abertawe’r rhestr fer).

Bydd llawer o'r gwaith hwn yn parhau i fod yn berthnasol i bartneriaid y ddinas, ymarferwyr, cyllidwyr ac asiantaethau llywodraethu ond mae angen ei adnewyddu'n llawn i ystyried unrhyw fylchau ac i fyfyrio ar lwyddiannau a sicrhawyd eisoes.

Mae egwyddorion ein hymagwedd at gyflwyno rhaglennu diwylliannol yn sail i fuddsoddiad y ddinas mewn ac o fewn economi gymysg o bartneriaethau a gwasanaethau wedi'u contractio, rhwydwaith o asedau diwylliannol gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, theatrau, busnesau ac ymarferwyr creadigol, cyfleusterau chwaraeon, llyfrgelloedd a safleoedd hanesyddol. Caiff cynaliadwyedd yr egwyddorion hyn eu llywio gan ymrwymiadau i feithrin ymgysylltiad cymunedol, datblygiad economaidd, cynhwysiant, cydraddoldeb, hawliau dynol a lles cyffredinol.

Ariennir y cyfle hwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a rhaid ei gyflwyno o fewn amserlen benodedig y gronfa.  Anogir asiantaethau i ystyried y gofyniad hwn cyn cyflwyno cais.

ITT code: itt_111697

 

Dyddiad cau: 30/07/2024