Fel rhan o raglen 3-diwrnod ar-lein a gyflwynir gan Showcase Scotland, bydd digwyddiad Spotlight Cymru Wales nawr yn cael ei gyflwyno'n ddigidol i gynrychiolwyr ledled y byd. Ar ddydd Gwener 4 Chwefror 2022, i nodi dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol ​​y Cenhedloedd Unedig a Dydd Miwsig Cymru, bydd arddangosfa gan 6 artist cyffrous ac amrywiol o Gymru yn cael ei ddangos yn rhifyn digidol Showcase Scotland, ochr yn ochr ag arddangosiadau gan ddetholiad o artistiaid gwych sy’n gweithio yn yr ieithoedd Scots a Gaeleg, cyn seremoni cloi lle edrychwn ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.

Yn nigwyddiad Spotlight Cymru Wales, byddwn yn gwahodd dirprwyon i ymuno â ni ar gyfer rhaglen ddigidol o berfformiadau a chyfweliadau gan 6 o artistiaid o Gymru: Cynefin, Eve Goodman, N’famady Kouyaté, NoGood Boyo, Pedair a The Trials of Cato. Cyflwynir y rhaglen gan Lisa Gwilym (BBC Radio Cymru) ac Aleighcia Scott (artist a chyflwynydd BBC Cymru). Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru, diwrnod lle mae cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei ddathlu ledled y byd, a bydd cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth o bob rhan o’r byd yn bresennol.

Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd rhaglen ychwanegol yn cynnwys perfformiadau gan y 6 artist Cymreig yn cael eu cynnwys yn rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau Celtic Connections. Caiff rhagor o wybodaeth am hyn ei rhannu'n fuan drwy wefan Celtic Connections.

Diolch o galon i’r timau yn Celtic Connections a Showcase Scotland sydd wedi gweithio, ac yn parhau i weithio, yn ddiflino i ddod â chynulleidfaoedd ac artistiaid o bedwar ban byd ynghyd, i fwynhau cerddoriaeth a diwylliant, a’r cyfle i gysylltu â’i gilydd.