Mae'r artist Clive Hicks-Jenkins wedi cael sawl cydweithrediad agos a gwych gyda beirdd.  Mae wedi gweithio ar dri llyfr gyda'r Bardd Llawryfog Simon Armitage.  A darparu delweddau ar gyfer cyfieithiad Seamus Heaney o Beowulf. Ar gyfer y Folio Society eleni mae wedi darlunio cyfieithiadau clodwiw Emily Wilson o'r Iliad a'r Odyssey. 

Derbyniodd Fedal Owain Glyndŵr 2019 am ei Gyfraniadau i'r Celfyddydau yng Nghymru, ac yn 2020 enillodd Wobr Llyfr Darluniadol V&A. Dewch i glywed Clive yn siarad am ei fywyd a'i waith mewn noson sy'n cyfuno delwedd a phenillion.

DYDD IAU 18 MEDI – 7.30 PM

AR GYFER POB TOCYN events@artshopandchapel.co.uk NEU 
FFONIWCH 01873 852690/736430.