Y drydedd berfformiad yn The Shape of Things to Come (tymor blynyddol Volcano o berfformiadau gwreiddiol byr gan wneuthurwyr theatr llawrydd) yw What the F*** is Going on? (neu How I See Things) gan Ryan Samuel Davies.
Wnaethoch chi erioed feddwl sut beth fydd ein dyfodol? Wel, er mwyn ei weld, rydym angen bod yn dyst i’r hyn sydd o’n blaenau ni. Mae Ryan yn tynnu sylw at y problemau cymdeithasol sy’n gysylltiedig gyda deallusrwydd artiffisial, a’r modd y mae’n ymwthio i’n bywydau, o safbwynt dosbarth gweithiol.
Mae Ryan Davies yn artist, technolegydd creadigol a gwneuthurwr ffilmiau y mae ei waith yn cwmpasu’r theatr, digwyddiadau byw, a sinema estynedig. Yn dod o dref ôl-ddiwydiannol yn Ne Cymru, mae ei waith yn cyfuno adrodd straeon a thechnoleg arloesol.