Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Beth yw eich stori chi?

Ffurfiwyd The Trials of Cato yn 2016 pan oedd dau gyfaill o’r gogledd ac un o Swydd Efrog yn gweithio fel athrawon Saesneg yn Beirut, Lebanon. Ar ôl i’r tri ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, aethon nhw ati i ryddhau’r albwm ‘Hide and Hair’ yn 2018, a aeth yn ei flaen i ennill y wobr am yr ‘Albwm Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2020.

Gyda’r offerynwraig amryddawn Polly Bolton bellach wedi ymuno â nhw, mae The Trials of Cato yn paratoi i ryddhau eu halbwm newydd ‘Gog Magog’ – albwm y mae cryn edrych ymlaen ato.

 

 

Beth yw eich cysylltiad chi â’ch cornel fach o Gymru?

Mae dau o aelodau’r band (Robin a Tomos) yn dod o ardal Wrecsam. Aeth y ddau i Ysgol Morgan Llwyd, sy’n ysgol Gymraeg, a chael eu magu yng nghanol sîn gerddoriaeth fywiog Wrecsam. Roedd mynd i gigs a ffurfio bandiau yn obsesiwn oes i’r ddau. 

 

 

Mae gan Gymru chwedlau am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw eich cerddoriaeth chi’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?

Ydy – mae chwedlau a hanes Ynysoedd Prydain, a rhai’r gwledydd Celtaidd yn enwedig, yn ein hysbrydoli’n fawr iawn.Wrth gyfansoddi, byddwn ni’n aml yn canolbwyntio ar yr elfennau hyn o adrodd straeon wrth inni geisio ailddyfeisio ac ailfframio hen naratifau a’u gwneud nhw’n berthnasol i gynulleidfaoedd modern.

 

 

Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig?

Mae Cymru’n genedl sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd diwylliannol – a breuder – ei hiaith frodorol, mewn ffordd brin. A ninnau’n canu yn Saesneg ac yn Gymraeg, rydyn ni’n credu mai un o’n prif amcanion yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd parhau i ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cerddorol.

 

 

Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a chithau yn eu plith drwy eich gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?

I ni, mae dyfodol cerddorol Cymru yn ymddangos yn ddisglair, yn amrywiol ac yn gyffrous. Wrth gyfarfod ag artistiaid gwerin eraill cyfoes o Gymru mewn digwyddiadau fel gŵyl ryng-Geltaidd Lorient a Gwobrau Gwerin Cymru, agorwyd ein llygaid i’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth newydd ryfeddol sy’n cael ei chreu gan artistiaid o Gymru ar hyn o bryd.Rydyn ni’n teimlo’n freintiedig ein bod ni’n rhan o sîn mor fywiog.

 

 

Beth yw eich cysylltiadau Celtaidd chi?

Mae dau draean y band o Gymru ac rydyn ni’n gwirioni’n gyffredinol ar bynciau fel hanes, iaith a chwedlau Celtaidd wrth chwilio am ysbrydoliaeth i’n cerddoriaeth.

 

 

Rydych chi ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd rydych chi’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?

Rydyn ni’n hynod o gyffrous o gael teithio i’r UDA i recordio ein hail albwm mewn stiwdio yn nhalaith Efrog Newydd fis nesaf.