Bydd sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn elwa o Raglen Fuddsoddiad Cyfalaf Strategol ar gyfer y Celfyddydau gwerth £8 miliwn a gyhoeddwyd ar y cyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru heddiw, 5 Mehefin 2025.
Mae sefydliadau celfyddydol yn cael y gwahoddiad i wneud cais am arian o gronfa cyllid cyfalaf fel y gallant fuddsoddi ar unwaith mewn agweddau hanfodol ar ddarparu'r celfyddydau a diwylliant ledled Cymru, gan gynnwys buddsoddi mewn adeiladau ac offer.
Mae cyhoeddi'r gronfa cyfalaf newydd yma yn dilyn lansiad diweddar Llywodraeth Cymru o'i Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, sy’n ymrwymo i ddarparu cyllid i gefnogi cymryd rhan yn y Celfyddydau ar lawr gwlad a sector diwylliannol mwy gwydn.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
"Mae ein Blaenoriaethau newydd ar gyfer Diwylliant yn nodi'n glir ein bod am sicrhau bod diwylliant yng Nghymru yn ffynnu ac yn cael adnoddau priodol. Bydd y gronfa hon yn helpu i gynnal a gwella ein lleoliadau celfyddydol a'n hadeiladau ac yn sicrhau bod gan y sector gelfyddydol y cyfleusterau a'r offer sydd eu hangen i barhau i gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol."
Nod y gronfa yw rhoi cymorth cyfalaf hanfodol, cynnal a chadw a/neu grantiau trawsnewidiol. Mae enghreifftiau o brosiectau a fydd yn cael eu hystyried yn cynnwys:
- gwella, cynnal a chadw hanfodol ac adnewyddu adeiladau a lleoliadau celfyddydol presennol, yn enwedig lle mae'r newidiadau’n cefnogi plant, pobl ifanc, teuluoedd ac integreiddio cymunedol
- cyfrannu at astudiaethau dichonoldeb am brosiectau cyfalaf strategol i alluogi sefydliadau i ymchwilio i hyfywedd eu syniadau
- prynu neu uwchraddio offer, datblygu trawsnewid digidol gan gynnwys asedau sy'n seiliedig ar ddigidol
- gwella cyfleusterau a phrynu offer a fydd yn gwella hygyrchedd adeiladau celfyddydol neu'n lleihau ôl troed carbon
Mae'r canllawiau llawn ar gyfer gwneud cais i'r gronfa Buddsoddiad Cyfalaf i’r Celfyddydau yn ein hadran Ariannu a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, 2 Gorffennaf 2025.
Wrth groesawu'r buddsoddiad yn y celfyddydau, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn o £8 miliwn yn seilwaith y celfyddydau yn darparu cyllid hanfodol i sefydliadau celfyddydol ledled Cymru. O'n trafodaethau rheolaidd gyda lleoliadau a sefydliadau celfyddydol, rydym yn gwybod bod gwir angen buddsoddi mewn offer ac adeiladau nid yn unig i gefnogi gweithgareddau presennol ond hefyd i greu'r mannau a darparu'r technolegau sy'n galluogi unigolion a chwmnïau i ddatblygu gwaith newydd."
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
"Bydd y cyllid cyfalaf gwerth £8m rydyn ni'n ei ddarparu eleni yn drawsnewidiol i sefydliadau celfyddydol i'w galluogi i barhau i ddiddanu pobl ledled Cymru. Bydd y cyllid yn galluogi buddsoddiad mewn llawer o'r pethau rydyn ni weithiau'n eu cymryd yn ganiataol – y llwyfannau, yr amgylchedd, ac yn gynyddol y llwyfannau digidol sy'n hanfodol i gyrraedd cynulleidfaoedd modern.
"Fel Llywodraeth, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd celfyddydau a diwylliant. Dyna pam eleni rydym wedi cynyddu cyllid o ddydd i ddydd i'r sector o 8.5% - cynnydd enfawr sy'n adlewyrchu'r lle arbennig sydd gan y celfyddydau yng nghalonnau pobl ledled Cymru."