Bydd y gweithiau i'w gweld yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru o ddydd Sadwrn 21 Mai 2025, ac maen nhw'n edrych ar sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn undod â mudiadau rhyngwladol heddiw drwy greu cysylltiadau rhwng hanes mwyngloddio a streicio Cymru â mudiadau llafur ar draws y byd heddiw gan daflu goleuni newydd ar hanes trefedigaethol a diwylliannol Cymru.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Safbwynt(iau) yn fenter arloesol sy'n rhoi llwyfan i saith artist o ddiwylliannau amrywiol drafod y cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a hanes byd-eang ymerodraeth, mudo a gwrthsefyll. 

Gan weithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, mae Sadia wedi datblygu Arwyddion – ffilm, seinwaith a gosodwaith piwter a cherfluniol sy'n annog yr ymwelydd i edrych yn feirniadol ar y gorffennol a'i effaith parhaus heddiw.

Dywedodd Sadia Pineda Hameed: “Mae Arwyddion yn ymateb i 'nghyfnod i'n gweithio gyda Big Pit, ac yn ystyried yr amgueddfa fel cof cenedl a hanes llafar hawliau gweithwyr a'r hawl i streicio, sydd mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae casgliad Big Pit yn llawn symbolau o waith trefnu tanddaearol a chydweithredu rhyngwladol sy'n amhosib ei archifo.

Roeddwn i am weld sut y gall y symbolau hyn osgoi cael eu troi'n 'hanes' (yn amgueddfaol a threfedigaethol) a dod yn fwy na chofnod ond yn arwydd o weithredu radical. Mae Arwyddion yn dychmygu'r casgliad a'r amgueddfa, nid fel cofnod sych ond fel symbol byw. 

Mae'r ffilm, y seinwaith a'r cerfluniau yn dychmygu sut y gall Big Pit ei hun ledu'r neges – neges am streic a'i dylanwad, ond neges hefyd o gefnogaeth i frwydrau yn erbyn annhegwch echdynnu adnoddau yn y De Byd-eang heddiw."

Mae elfen o arddangosfa Safbwynt(iau) i'w gweld ym mhob un o'n saith amgueddfa, a phob artist yn codi'r llen ar elfen gudd o'r casgliad cenedlaethol. Bydd gosodwaith Sadia yn Big Pit yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa ystyried sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn undod â mudiadau rhyngwladol heddiw, ac yn tanio sgwrs am gynrychiolaeth, grym a hunaniaeth.

Dywedodd Sophie Lindsey, Swyddog Marchnata Llantarnam Grange:⁠ "Mae wedi bod yn bleser cefnogi Sadia i ddatblygu gwaith newydd yn Big Pit ac yma yn Llantarnam Grange. O dalebau llafur a gwerth gwahanol, hanes swynion trefedigaethol a gwerin, a chyfathrebu cudd fel arf gwrthsefyll mae Sadia wedi creu arddangosfeydd a gosodweithiau cyfun yn y ddau leoliad sy'n chwarae ar wahanol elfennau o'i hymchwil a chasgliad yr Amgueddfa. 

Mae Arwyddion yn cwestiynu rôl yr amgueddfa. Yn hytrach na chadw gwrthrychau'r gorffennol, sut all amgueddfeydd barhau i gydgefnogi cymunedau heddiw? Pa wybodaeth neu strategaethau all gael eu rhannu? Sut all amgueddfa wedi'i seilio ar weithredu radical gyrraedd tu hwnt i ffiniau gwladol at fwynfeydd a gweithwyr sy'n cael eu cam-drin heddiw?"

Mae Safbwynt(iau) yn agor ar 31 Mai yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon ac i'w gweld tan 31 Awst. Rydyn ni'n gwahodd ymwelwyr i grwydro drwy'r gosodweithiau hyn sy'n codi cwestiynau ac ailddiffinio sut rydyn ni'n adrodd hanes Cymru.

Yn ogystal ag Arwyddion, bydd arddangosfa unigol Sadia Agimat i'w gweld yn Llantarnam Grange rhwng 31 Mai ac 16 Awst 2025.

Safbwynt(iau):

Mae Safbwynt(iau) yn broject cydweithredol cyffrous rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio newid yn y ffordd mae'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.