Ydych chi'n feddyliwr creadigol? Allwch chi gynhyrchu syniadau? A ydych chi'n gallu gweld y darlun mawr a chymhwyso'ch dulliau a'ch syniadau creadigol i ystod o faterion? Os mai’r ateb yw ‘ydw’, rydym am glywed gennych chi.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Fel rhan o Gam 3 Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, rydym am gynyddu amrywiaeth ein carfan o weithwyr proffesiynol dawnus ac ysbrydoledig i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’r Saesneg ar Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn ystod blynyddoedd academaidd 2022/23 a 2023/24. Nod y cynllun yw hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio, gyda rhaglenni dysgu arloesol a phwrpasol wedi'u cynllunio i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu.

Rydym yn canolbwyntio’n arbennig ar gynyddu ein amrywiaeth fel rhan o’r broses recriwtio ceisiadau yma ac rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan bobl o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn ogystal ag ymarferwyr byddar, anabl, niwroddargyfeiriol ac sy’n siarad Cymraeg.

Bydd angen i chi ddangos yn eich cais eich profiad o weithio o fewn egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn eich agwedd greadigol at Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Beth mae Asiant Creadigol yn ei wneud?

Bydd Asiantwyr Creadigol yn tynnu ar eu profiad ymarferol o ‘greadigrwydd’ ac yn gweithredu fel catalydd a fydd yn gallu ymateb i flaenoriaethau ac anghenion datblygu unigol pob ysgol. Boed yn y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, neu sectorau eraill, eich sgiliau allweddol fydd eich gallu i herio, cefnogi a chynnal ymarfer newydd ym maes dysgu creadigol.

Diddordeb?

  • Ar ôl i ni dderbyn eich cais, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch, a byddwn yn anelu at ymateb yn ffurfiol o fewn 3 wythnos.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i hyfforddiant cyflogedig, a gynhelir dros 3 diwrnod yn olynol, o’r 6 - 8 Medi.
  •  Nid yw cael eich derbyn ar yr hyfforddiant yn gwarantu y cewch eich paru ag ysgol a chael cynnig gwaith.
  • Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei brosesu os bydd angen.
  • Mae ceisiadau nawr ar agor. Y dyddiad cau yw 12pm (canol dydd) dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022.

    Nodyn pwysig: Gofynnir i chi lanlwytho eich CV a geirda ar y ffurflen.

    Os nad ydych yn gallu cyrchu’r ffurflenni ar-lein, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar dysgu.creadigol@celf.cymru

    Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, hawdd ei ddarllen, braille, sain ac Iaith Arwyddion Prydain a bydd yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg ar gais.

    Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg.