Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chymorth oddi wrth Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi creu pecyn newydd cynhwysfawr o adnoddau hybu dwyieithrwydd. Nod y pecyn yw helpu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithgarwch celfyddydol, i greu llefydd gwaith mwy dwyieithog, ac i gynnig cymorth i unrhyw un ym maes y celfyddydau sydd am ddysgu Cymraeg, wella eu sgiliau iaith neu roi hwb i’w hyder wrth siarad Cymraeg.

Ymysg yr adnoddau newydd ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru mae:

  • Holiadur i fesur pa mor ddwyieithog ydy gweithgareddau cwmni neu sefydliad celfyddydol
  • Cyngor ar gynllunio gweithgareddau’n ddwyieithog  a datblygu gweithle dwyieithog
  • Esboniad o Ddeddfwriaeth Iaith
  • Gwybodaeth am greu brand a delwedd ddwyieithog
  • Arweiniad ar sut i gael mynediad at wersi Cymraeg neu wella sgiliau iaith

Comisiynwyd cwmni Birchall a Thomas i gynllunio a pharatoi'r cynnwys ac mae’r Pecyn Adnoddau ar gael ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru:   https://arts.wales/cy/gweithredu-yn-ddwyieithog-cyflwyniad

“Rydym yn gwybod fod y sector celfyddydol yn rhoi bri mawr ar y  Gymraeg ac yn gweithio’n galed er mwyn creu gwaith cyffrous yn y Gymraeg, yn ogystal â sicrhau hawliau gweithwyr a chynulleidfaoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd yr adnoddau newydd ar ein gwefan yn ei gwneud hi’n haws i sefydliadau a gweithwyr wybod beth sydd rhaid iddyn nhw ei wneud, yn ogystal â be ellir ei wneud ganddynt i wella eu darpariaeth dwyieithog."

Sian Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Rydym yn croesawu’r adnodd newydd cyffrous hwn, ac yn llongyfarch Cyngor Celfyddydau Cymru ar baratoi cynllun ac arweiniad clir i bobl sy’n cynnal digwyddiadau a grwpiau celfyddydol. Mae’r celfyddydau wrth galon ein cymunedau yng Nghymru, ac yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu mewn awyrgylch hwyliog a naturiol, ac mae ganddi ran greiddiol wrth i ni geisio cyrraedd nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae’r Comisiynydd wedi lansio Cynnig Cymraeg, sy’n farc ansawdd ar gyfer sefydliadau sydd ddim yn o dan y safonau i’w dilyn, gyda’r nod i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg yn well i'r cyhoedd. Wrth gydweithio â’r Cyngor Celfyddydau, rydym yn gobeithio y byddwn yn annog rhagor o sefydliadau celfyddydol i ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith."

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.